Story
Annwyl Gyfeillion - Dear Friends
Ym mis Hydref, byddaf yn dychwelyd i'm hoff dref, Aberystwyth, er mwyn rhedeg ras y Dau Gopa.
In October, I'll be returning to my favourite town, Aberystwyth, to run the Twin Peaks race.
Mae'n ras 6.5 milltir eithaf heriol sydd yn cynnwys copaon Pen Dinas a "Consti".
It's quite a challenging 6.5-mile race which includes the summits of Pen Dinas and Constitution Hill.
Roeddwn yn mwynhau rhedeg ar y bryniau hyn fel crwt yn Ysgol Penweddig - ond mae'n dipyn anoddach nawr rwy'n 38 oed!
I used to enjoy running on these hills as a lad in Penweddig school - but it's quite a bit harder now that I'm 38!
(Na, dydw i ddim yn cael cymryd Rheilffordd y Graig lan Consti, chwaith).
(No, I'm not allowed to take the Cliff Railway up Consti either).
Fy mhrif rheswm dros anelu am y ras hwn yw i gadw'n heini dros yr haf. Ond gobeithiaf tynnu sylw at un o anghenion mwyaf sylfaenol pobl y byd, sef dŵr.
My main reason for aiming for this race is to keep fit over the summer. I also hope to raise awareness of one of the most basic needs for people across the world, namely water.
Fe wn bod llawer ohonoch wedi cefnogi fy ymdrechion codi arian yn y gorffenol (Marathons Caerdydd 2005; Llundain 2009; Caerlŷr 2011). Felly dydw i ddim yn mynd i'ch drafferthu'n ormodol am gefnogaeth eleni.
I know that many of you have supported my fundraising in the past (Cardiff Marathon 2005; London Marathon 2009; Leicester Marathon 2011) so I am not going to pester you too much for support this time.
Os ydych mewn sefyllfa i gyfrannu *£2* (yr isafswm ar gyfer rhodd ar-lein) , bydden i'n fwy na ddiolchgar.
If you are in a position to contribute *£2* (the minimum for an online donation), I would be more than grateful.
Diolch am eich cefnogaeth! Thanks for your support!
Carwyn xxx
