Story
Diolch oflaen llaw i bawb am gyfranu!!
Ebrill ydi mis ymwybyddiaeth canser yr Oesoffagws
Felly here goes!!!!!!!
Fel mae rhai ohonoch yn gwybod bellach fy mod i ‘di cael lle i wneud Ras yr Wyddfa 2019 !!!!! Diolch genod am gytuno i wneud o hefo fi !! Rhian Nikki Rachel a Lowri
Aaaahhhhhh!!!!!!🙈🙈🙈
Teimlaf bod gwneud y her fawr yma yn gyfle da i gadw fi yn brysur yn ffit ac hefyd i godi ymwybyddiaeth at Ganser yr Oesoffagws er côf am fy ngŵr a gollodd ei fywyd Awst diwethaf gyda’r salwch yn 36 mlwydd oed.
Roedd fy ngŵr yn hoff iawn o redeg mynydd mi gymerodd rhan yn ras yr wyddfa sawl gwaith.
Roedd Rory yn ddyn benderfynol iawn, ac wedi cael llawer iawn o anturieuthau yn ystod ei fywyd byr hudynoed ei fod o ‘di gael 3 o blant yn ifanc, roedd wastad yn hybu fi ar hogia ymlaen er mwyn gwneud y gorau o fywyd, ac roedd gwneud y ras yma yn un pethau oedd e wastad wedi dweud wrthaf am wneud! felly dyma fi a gallai’m tynnu yn nol rwan!!
Canser ydi canser ar ddiwedd y dydd ond gyda llai na 18mis o’r diagnosis i farwolaeth mae hon yn un caled! Mae canser esophageal yn cael diagnosis gan ei symptomau yn hytrach na gwiriad meddygol rheolaidd. Yn anffodus, yn ei gamau cynnar, nid yw canser esophageal yn ymddangos unrhyw symptomau(sydd yn ei wneud yn fwy peryg) felly dim ond pan fydd wedi cyrraedd cyflwr datblygedig y daw i sylw meddyg.
Mae hyn yn gwneud cael triniaeth effeithiol yn llawer fwy heriol. Mae'r ffaith y gall symptomau ymddangos, ond y gellir cael eu drysu yn hawdd gyda mân gwynion eraill, yn gwaethygu'r broblem. Yn aml iawn, nid yw cleifion yn sylweddoli bod ganddynt unrhyw reswm i bryderu.
Rwyf wedi rhoi arian i ddau elusen gwahanol dros y misoedd diwethaf fydd yn agos at fy nghalon am byth sef
Ward dydd Alaw
Hosbis yn y cartref
Ac oes, mae yna lawer iawn o elusenau eraill i ymwneud a canser ond mae yna rhai yn y cefndir sydd ddim yn cael y cydnabyddiaeth y dylsa nhw gael (cyn hyn oni heb glywed mai dyma oedda nhw yn ei wneud) ac yr un i ni oedd Tenovus.
Nafo nhw sortio cyn gymaint o bethau er mwyn gwneud pethau ychydig yn haws mewn adeg mor anodd ac hefyd yn ffonio pob wythnos i sgwrsio a rhoi cyngor i Rory a thrafod sut oedd yn ymdopi ar driniaeth ac ei deimladau ayyb.
Doedd gen i’m bwriad i godi arian drwy gwneud ras yr wyddfa i fod yn onest, ond gan bod cyn gymint o bobl wedi holi, teimlaf bod yn esgus da i godi ymwybyddiaeth ac arian at elusen hynnod o werthfawr sef TENOVUS. gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad.
Diolch K