Story
*English-language message follows below*
Ym mis Ionawr 2023 cafodd un o fy ffrindiau gorau, Shaun Richards, ddiagnosis o ganser y pen a'r gwddf. Erbyn mis Rhagfyr 2023, ar ôl cael llawdriniaeth ynghyd â 30 sesiwn o cemotherapi a 6 sesiwn o radiotherapi, diolch i’r Gwasanaeth Iechyd, cafodd Shaun wybod fod ei sgan diweddaraf yn glir. Ym mis Tachwedd 2025, bydd Shaun a fi yn cymryd rhan mewn taith gerdded elusennol yn Fietnam dan arweiniad Rhod Gilbert, i godi arian i Ganolfan Ganser Felindre er mwyn cefnogi pobl sy’n dioddef o ganser, a’u teuluoedd. Nid yw pawb mewn sefyllfa i gyfrannu, ond os ydych chi’n gallu gwneud hynny, byddai unrhyw rodd yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr. Bydda i’n talu’r costau sy’n gysylltiedig â’r her hon, felly bydd unrhyw gyfraniadau yn cefnogi gwaith Canolfan Ganser Felindre yn uniongyrchol.
In January 2023 one of my best friends, Shaun Richards, was diagnosed with head and neck cancer. By December 2023, after undergoing surgery, 30 sessions of chemotherapy and 6 sessions of radiotherapy, thanks to the NHS, Shaun received a clear scan. In November 2025, Shaun and I will be taking part in a charity trek in Vietnam led by Rhod Gilbert, to raise money for the Velindre Cancer Centre to support cancer patients and their families. Not everyone will be able to contribute, but if you are able to do so, any donation would be greatly appreciated. I will be self-funding the costs associated with this challenge, so any donations will go directly towards supporting the work done by the Velindre Cancer Centre. Diolch o galon. Morys.

