Story
*English below*
Rydym yn codi arian ar gyfer Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen er cof am Iwan Huws. Roedd ymdrechion y tim wrth iddynt chwilio am Iwan yn ysbrydoledig, ac er nad oedd y canlyniad yr hyn roeddem yn obeithio amdano, rydym fel teulu yn hynod o ddiolchgar am eu hymroddiad.
Roedd Iwan yn berson anhygoel, yn gerddor, ac yn anturiaethwr oedd wedi trafeilio'r byd. Fe gerddodd yr Inca Trail i Machu Pichu, yr Annapurna Trek yn yr Himalayas, ac fe seiclodd gyda phabell ar ei gefn o Amsterdam i Basel. Roedd bob amser yn chwilio am yr her a'r antur nesaf. Mae'n ergyd drom iddo golli ei fywyd ar ei hoff fynydd yn Eryri, yn gwneud yr hyn roedd yn ei garu.
Roedd Iwan yn edmygu'r criw achub mynydd yn fawr iawn, ac wedi gobeithio ymuno gyda nhw ei hun ac wedi dechrau hyfforddi fel arweinydd mynydd. Maent yn arwyr gyda phob un ohonynt yn gwirfoddoli. Plis rhowch yn hael er cof am Iwan, person oedd â chariad angerddol at ei fro a'i mynyddoedd.
*******************
We are raising money towards Ogwen Valley Mountain Rescue Organisation CIO in memory of Iwan Huws. The team's efforts as they searched for Iwan was inspirational, and although the result wasn't what we had hoped for, as a family we are very grateful for their dedication.
Iwan was an incredible person, a musician, and an adventurer that had traveled the world. He hiked the Inca Trail to Machu Pichu, the Annapurna Trek in the Himalayas, and he cycled from Amsterdam to Basel with a tent on his back. He was always looking for the next adventure. It's a heavy blow to lose him on his favourite mountain in Snowdonia, doing what he loved.
Iwan greatly admired the mountain rescue volunteers and had hoped to join them once he'd completed his mountain leader training. Every single one of them are heroes. Please give generously in memory of Iwan, who loved the outdoors and was deeply passionate about Snowdonia and its mountains.