I've raised £3000 to support our local Neonatal & Paediatric Palliative care teams, in memory of our baby daughter, Anwen.

During 2018 we lost our beautiful baby daughter, Anwen. Born unexpectedly poorly, she spent 8 weeks in hospital & 11 weeks at home. She passed away at only 19 weeks of age.
During 2019, as a family, we are aiming to remember Anwen by completing 19 different events and challenges, one for each week of her life - 19 in '19.
Through this, we aim to raise funds for the NHS services that helped Anwen and us throughout her 19 weeks. We owe so much to their outstanding expertise, care, support and encouragement, and for making Anwen’s short life, and our precious memories of her possible. All funds raised will be donated and shared equally between these 3 teams:
• Neonatal Intensive Care Unit, Singleton Hospital. Swansea Bay University Health Board Charitable Fund – registered charity number 1122805.
• Neonatal Outreach Service, Glangwili Hospital. Hywel Dda Health Charities – registered charity number 1147863.
• Children’s Palliative Care Team, Glangwili Hospital. Hywel Dda Health Charities – registered charity number 1147863.
These teams provide high standard of care for babies born prematurely, ill, and/or born with life-limiting conditions. Parents are supported throughout their journey from birth to bereavement. We would appreciate any donations. The money will be used for additional resources to continue to help and support families in similar situations.
If you’d like to join us in one of our 19 in '19 events, please let us know.
Thank you so much,
Eurig & Bethan
- - - - -
Our 19 events:
1. Cardiff 5k Winter Warmer Run. 03/02/19 ✅
2. Pen y Fan summit walk. 24/03/19 ✅
3. Cader Idris summit walk. 06/04/19 ✅
4. Gung-Ho! 5k inflatable obstacle course, Singleton Park. 20/04/19 ✅
5. ToughRunnerUK: Swansea Epic Trail 10k run. 12/05/19 ✅
6. Cycle from Singleton to Llangennech. 18/05/19 ✅
7. Llyn y Fan Fach: Family walk. 08/06/19 ✅
8. Cycle from Glangwili to Llangennech. 22/06/19 ✅
9. Snowdon summit walk. 07/07/19 ✅
10. iNVNCBL: 10k obstacle course. 20/07/19 ✅
11. Duck Race, Hendy Park. 27/07/19 ✅
12. IronKids: 500m & 1k run for children, Tenby. 14/09/19 ✅
13. Swansea Bay 10k run. 22/09/19 ✅
14. Cardiff Half Marathon. 06/10/19 ✅
15. Curry Night & Raffle, Sheesh Mahal, Llanelli. 14/10/19 ✅
16. RWAS Run, National Botanic Garden of Wales - 2.5k Run/Walk; 5k Run; 10k Run. 27/10/19 ✅
17. Coffee Morning & Tombola, Llangennech. 09/11/19 ✅
18. Music Gig & Silent Auction - St Catherine’s Hall, Pontcanna, Cardiff. 15/11/19 ✅
19. Walrus Dip. Swimming in the sea, Pembrey. Boxing Day - 26/12/19 ✅
- - - - -
Yn ystod 2018, fe wnaethon ni golli ein merch fach hyfryd, Anwen. Yn annisgwyl, roedd hi’n wael iawn pan ganwyd hi, a threuliodd 8 wythnos yn yr ysbyty ac yna 11 wythnos yn ôl adref. Bu farw yn 19 wythnos oed yn unig.
Yn ystod 2019, fel teulu, rydym am goffáu bywyd Anwen drwy gwblhau 19 o ddigwyddiadau a heriau gwahanol (un am bob wythnos o'i bywyd) - 19 yn '19.
Drwy hyn, ein nod yw codi cymaint â phosibl o arian ar gyfer gwasanaethau'r GIG a fu o gymorth enfawr i Anwen a ninnau yn ystod yr 19 wythnos. Allwn ni ddim diolch digon iddyn nhw am eu harbenigedd, eu gofal, eu cefnogaeth a’u hanogaeth eithriadol, ac am wneud bywyd byr Anwen, a'n hatgofion gwerthfawr ohoni, yn bosibl. Bydd yr holl arian a godir yn cael ei roi a'i rannu'n gyfartal rhwng y 3 tîm canlynol:
• Uned Gofal Dwys Newydd-anedig, Ysbyty Singleton. Cronfa Elusennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – rhif elusen gofrestredig 1122805
• Gwasanaeth Allgymorth Newydd-anedig, Ysbyty Glangwili. Elusennau Iechyd Hywel Dda – rhif elusen gofrestredig 1147863
• Tîm Gofal Lliniarol i Blant, Ysbyty Glangwili. Elusennau Iechyd Hywel Dda – rhif elusen gofrestredig 1147863
Mae'r timau yma’n darparu gofal o safon uchel i fabanod sâl, sydd wedi eu geni’n gynnar a/neu sydd wedi eu geni â chyflyrau sy’n cyfyngu ar ddisgwyliad oes. Cefnogir rhieni trwy gydol eu taith o enedigaeth i brofedigaeth. Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw roddion. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adnoddau ychwanegol i barhau i helpu a chefnogi teuluoedd mewn sefyllfaoedd tebyg.
Os hoffech chi ymuno â ni yn un o'n digwyddiadau 19 yn '19, rhowch wybod i ni.
Diolch o galon,
Eurig a Bethan