Your friends are fundraising. Don't miss out, opt in.

We did it!

Huw Marshall raised £945 from 40 supporters

or

Start your own crowdfunding page

Closed 12/03/2017

0%
£945
raised of £1,000 target by 40 supporters

    Iʼve raised £945 to /Rydym yn codi arian er mwyn cyflogi unigolyn rhan amser am fis, adeiladu gwefan a datblygu ein gweithgaredd Facebook.

    Cymru
    Funded on Sunday, 12th March 2017

    Don't have time to donate right now?

    Story

    Sefydlwyd yr Awr Gymraeg yn ôl yn 2012 fel awr Twitter i hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau busnesau a sefydliadau. O'r hedyn a blannwyd mae'r Awr wedi tyfu i'r pwynt lle ar ddechrau 2017 mae dros 8,000 o ddilynwyr gan y cyfrif. Yn ystod 2016 mi wnaeth yr hashnod #yagym gyrraedd 197,251,274 o linellau amser a 9,689,752 o gyfrifon Twitter.

    Mae wedi bod yn llwyddiant. Mae Huw Marshall a Dewi Eirig, trefnwyr yr Awr, yn awyddus i ddatblygu'r Awr a'i gymryd i'r lefel nesaf.

    Sut byddwn yn cyflawni hyn?

    Mae Twitter yn gyfrwng gwych, ond mae ganddo ei gyfyngderau. Mae angen ehangu ôl troed yr Awr i ofodau newydd dylanwadol, y we a Facebook. Gwyddwn fod bron i 200,000 o gyfrifon Facebook wedi ticio'r blwch iaith "Cymraeg" hoffwn gyrraedd y mwyafrif o rain gyda gwybodaeth am wasanaethau a chynnyrch gymuned yr Awr Gymraeg.

    Bydd yr arian yn ein galluogi i adeiladu gwefan fydd yn gartref i wybodaeth am gymuned yr Awr Gymraeg, yr unigolion, cwmnïau a sefydliadau sy’n defnyddio’r Awr, eu cynnyrch a gwasanaethau. Bydd map rhyngweithiol yn dangos lleoliadau ‘r busnesau a sefydliadau sy’n defnyddio’r Gymraeg. Bydd calendr digwyddiadau, gyda’r digwyddiadau yma yn ymddangos ar y map.

    Bydd ofod i erthyglau, podlediadau a fideos byr am aelodau’r gymuned.
    Hoffwn ddatblygu “marchnad” ar gyfer cynnyrch Cymraeg mewn partneriaeth a chwmnïau Cymraeg. Bydd modd i unigolion sydd ddim ar Twitter gweld negeseuon hyrwyddo sy'n defnyddio'r hashnod #yagym.

    Bydd rheoli'r Awr ar Twitter, rheoli cynnwys y gwefan, creu cynnwys ar gyfer ein tudalen Facebook a thyfu ein cynulleidfa ar Facebook yn cymryd amser.

    Bydd yr arian yn ein galluogi i dalu unigolyn i weithio 16 awr yr wythnos am fis, yn cynorthwyo Huw a Dewi yn y gwaith maent yn ei gyflawni'n wirfoddol ar hyn o bryd a dechrau creu gwefan. Mae'r cam cyntaf yma wedi ei gyflawni.

    Y nod ar ddiwedd y mis yw bod cynllun yn ei le i godi'r arian ychwanegol sydd angen.

    Gyda'ch cefnogaeth gallwn cyflawni hyn. Diolch

    Updates

    2

    • Huw Marshall8 years ago
      Huw Marshall

      Huw Marshall

      8 years ago

      Diolch o galon am y gefnogaeth da ni wedi cyrraedd 10% o'r targed trwy 27 o gyfranwyr. Yn syml iawn mae angen 300 o bobol i gyfranu £20 yr un. Fe gyrhaeddwn y nôd 😊👍🏻

      Share this update to help us raise more

    • Huw Marshall8 years ago
      Huw Marshall

      Huw Marshall

      8 years ago

      Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yma, da ni wedi cyrraedd 7% o'n targed yn barod OND mae 'na dal tipyn o ffordd i fynd. Os gall 300 unigolyn/cwmni (279 erbyn hyn!) gyfrannu £20 yr un gallwn gael effaith bositif a chynyddu'r lefel o hyrwyddo a marchnata yn y Gymraeg yn sylweddol. Bydd hyn yn o fudd i bawb, unigolion, cwmnïau a sefydliadau. Mae'r Awr yn llwyddiant, ond gall fod cymaint yn fwy. Plis rhannwch ein neges gyda'ch ffrindiau sydd ddim ar Facebook a Twitter. Diolch o galon Huw a Dewi

      Share this update to help us raise more

    8 years ago

    Huw Marshall started crowdfunding

    Leave a message of support

    Page last updated on: 3/12/2017 13.16

    Supporters

    40

    • Anonymous

      Anonymous

      Mar 12, 2017

      Gwaith gwerthfawr a hanfodol i ddyfodol yr iaith

    • Iestyn Hughes

      Iestyn Hughes

      Mar 11, 2017

      £50.00

    • Eluned Press

      Eluned Press

      Mar 11, 2017

      £20.00

    • Karen Glyn Goswell

      Karen Glyn Goswell

      Feb 24, 2017

      £20.00

    • Anonymous

      Anonymous

      Feb 22, 2017

      Diolch am yr holl waith ac egni

      £20.00

    • Anonymous

      Anonymous

      Feb 8, 2017

      £50.00

    • Paula Roberts

      Paula Roberts

      Feb 6, 2017

      Dal ati efo'r gwaith da

      £30.00

    What is crowdfunding?

    Crowdfunding is a new type of fundraising where you can raise funds for your own personal cause, even if you're not a registered nonprofit.

    The page owner is responsible for the distribution of funds raised.

    Great people make things happen

    Do you know anyone in need or maybe want to help a local community cause?

    Create you own page and donʼt let that cause go unfunded!

    About Crowdfunding
    About the fundraiser
    Huw Marshall

    Huw Marshall

    Cymru

    Report this Page