Story
Mae AS Arfon Siân Gwenllian wedi lansio apêl Nadolig i godi arian ar gyfer Samariaid Bangor. Mae eu gwirfoddolwyr yn darparu cefnogaeth emosiynol sy'n achub bywydau ledled Gogledd Orllewin Cymru. Ddydd a nos, 365 diwrnod y flwyddyn, mae'r Samariaid yn cynnig lle diogel a chyfrinachol i unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi - yn enwedig ar adeg o'r flwyddyn pan fo unigrwydd, pwysau ariannol a heriau personol yn pwyso’n drymach.
Down at ein gilydd unwaith eto eleni a chefnogi'r gangen sydd wedi'i lleoli ym Mharc Menai, gan helpu i sicrhau y gallant barhau i fod yno i'r rhai sydd angen clust i wrando. Mae pob cyfraniad - mawr neu fach - yn cryfhau'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl yma yn Arfon.
___________________________________________________
Arfon MS Siân Gwenllian has launched a Christmas appeal to raise vital funds for Bangor Samaritans, whose volunteers provide life-saving emotional support to people across North West Wales. Open day and night, 365 days a year, Samaritans offer a safe, confidential space for anyone struggling to cope — especially at a time of year when loneliness, financial pressures and personal challenges can feel even heavier.
Siân is calling on the community to come together once again and support the branch based at Parc Menai, helping ensure they can continue to be there for those who need someone to listen. Every donation — large or small — directly strengthens the support available to people here in Arfon.