I've raised £3000 to share between Wales Air Ambulance and Bronglais Chemo Appeal by climbing the 3 highest peaks in Wales and cycling between them.

Organised by Rhian Rowlands on behalf of Dewi, Dorian, Geraint, Geraint, Llyr & Martyn
Donations cannot currently be made to this page
Health and medical

Story

Beicio i daclo tri chopa Cymru, 6 chwaraewr rygbi, 205 o flynyddoedd, 205 o filltiroedd o'u blaenau. Sialens elusennol 2023.

Wedi cael ambell i ddiodyn yn dilyn gem rygbi, fe blanwyd yr hedyn i wneud sialens elusennol.

Penderfynwyd cefnogi un elusen leol a un cenedlaethol. Yn anffodus, fe fydd 1 mewn 2 ohonom yn dioddef o ganser yn ystod ein bywyd ac mae cael safle sydd yn gallu rhoi'r driniaeth orau i bobol y Canolbarth ar stepen ein drws yn bwysig. Mae'r targed ar gyfer yr Uned newydd wedi ei chyrraedd ond maent yn parhau i wahodd pres fyd dyn cael ei ddefnyddio i gefnogi unigolion sy'n cael eu heffeithio gan ganser yng Ngheredigion a Chanolbarth Cymru.

Ariennir Elusen Ambiwlans Awyr Cymru gan bobl Cymru. Maent yn gweithredu pedwar o'r ambiwlansys awyr mwyaf blaenllaw yn y DU, gan arbed amser gwerthfawr ac achub bywydau – diolch i bobl Cymru.

Mae'r elusen yn dibynnu'n gyfan gwbl ar eich rhoddion elusennol i godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r Cerbydau Ymateb Cyflym ar y ddaear ledled Cymru.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Maent yno i bobl Cymru, pryd bynnag a ble bynnag y bydd ein hangen arnynt, fel mae Geraint sy'n cymryd rhan yn y sialens yn gwybod wedi iddo dderbyn cymorth yr Ambiwlans Awyr yn dilyn damwain ar y fferm pan oedd yn 13.

Bydd y 6 ohonom yn dringo'r Wyddfa cyn beicio lawr i Cadair Idris, dringo Cadair Idris ac yna beicio lawr i Penyfan cyn dringo'r mynnydd olaf. Byddwn yn beicio nol i Dregaron wedyn am noson hwyliog yn y Clwb Rygbi i gynnwys Ocsiwn a Cherddoriaeth byw. Byddwn yn cwblhau'r sialens ar y 17eg, 18fed a'r 19ain o Awst gyda'r gobaith o cwblahu'r sialens mewn 48 awr o deithio! Er bod y 6 ohonom yn chwarae rygbi, does dim profiad dringo mynyddoedd na beicio gyda'r un ohonom, felly sialens go iawn! Diolch am gymryd pip a chofiwch gyfrannu plis, diolch!

Help Rhian Rowlands on behalf of Dewi, Dorian, Geraint, Geraint, Llyr & Martyn

Sharing this cause with your network could help raise up to 5x more in donations. Select a platform to make it happen:

You can also help by sharing this link on:

About fundraiser

Rhian Rowlands on behalf of Dewi, Dorian, Geraint, Geraint, Llyr & Martyn
Organiser

Donation summary

Total
£6,025.00