I've raised £5000 to support the Magpies Walk, Run and Cycle around the World in 70 days! #MagpiesAroundtheWorld

Magpies around the world in 70 days! / Y Piod o amgylch y byd mewn 70 diwrnod!
Everyone connected to Bow Street Football Club is delighted to announce that we as a community club will aim to Walk, Run and Cycle around the World in 70 days (taking us to the start of our 2020 Junior Tournament).
Mae'n bleser gan bawb sy'n gysylltiedig â Chlwb Pêl-droed Bow Street gyhoeddi y byddwn ni fel clwb cymunedol yn anelu at gerdded, rhedeg a beicio o amgylch y Byd mewn 70 diwrnod (gan fynd â ni i ddechrau ein Twrnamaint Iau 2020).
This epic challenge, totaling 24,860 miles, will test every level of the club, and we are encouraging all Players, Coaches, Committee Members, Parents and Supporters to get involved. To join the team and record your miles please contact BowStreetEvents@outlook.com.
Bydd yr her anferthol hon, sy'n gyfanswm o 24,860 milltir, yn brawf enfawr i'r clwb, ac rydym yn annog Chwaraewyr, Hyfforddwyr, Aelodau o'r Pwyllgor, Rhieni a Chefnogwyr i gymryd rhan. I ymuno â'r tîm a chofnodi eich milltiroedd, cysylltwch â BowStreetEvents@outlook.com.
All donations will be split between Bow Street Football Club and the following amazing charities:
Hywel Dda NHS Covid-19 Appeal - www.hywelddahealthcharities.org.uk
HAHAV (Hospice at Home Aberystwyth Volunteering) - www.hahav.org.uk
Rhennir yr holl roddion rhwng Clwb Pêl-droed Bow Street a'r elusennau ardderchog yma:
Apêl Covid-19 GIG Hywel Dda - www.hywelddahealthcharities.org.uk
HAHAV (Gwirfoddoli Hosbis yn y Cartref Aberystwyth) - www.hahav.org.uk.
We ask all participants to achieve your miles within the Government Guidance for daily exercise (for further guidance please contact the club via the above email address).
Gofynnwn i'r holl gyfranogwyr gyflawni eich milltiroedd o fewn Canllawiau'r Llywodraeth ar gyfer ymarfer corff dyddiol (am wybodaeth pellach, cysylltwch â'r clwb trwy'r cyfeiriad e-bost uchod).
A huge thank you to everyone involved and to all those donating during these exceptional times!
Diolch o galon i bawb sy’n cymryd rhan ac i bawb sydd wedi cyfrannu yn ystod yr amseroedd eithriadol hyn!
#BowStreetFC / #CPDBowStreetFC
#Magpies / #YPiodMagpies
#MagpiesAroundtheWorld / #PiodRowndYByd