I've raised £1000 to Helpwch ni yn her Cardis ar Daith o amgylch y byd i godi arian i Arch Noa yng Nghaerdydd, CFfI Ceredigion a’r clybiau lleol

Rydym wedi penderfynu gwneud sialens rithiol o amgylch y byd ond nid i’w gyflawni mewn diwrnod ond yn ystod mis Ebrill. Felly, y target i’w gyrraedd yw 24,901 o filltiroedd mewn 30 diwrnod!
Mae croeso i bawb o bob oedran i ymuno yn y sialens, dim ond i chi gofrestru gyda Sialens y Byd C.Ff.I. Ceredigion:
https://www.strava.com/clubs/cfficeredigion2021
Gellir cerdded; rhedeg; beicio ac ati a chofnodi hyn ar strava drwy ymuno gyda clwb y Sir. Rydym yn gofyn yn garedig i chwi aros o fewn canllawiau’r Llywodraeth wrth gyflawni’r her. Hefyd, pan fyddwch allan yn yr awyr iach yn cyflawni’r her, pam na wnewch chi werthu eich cymuned drwy dynnu lluniau o’ch gweithgaredd, byd natur a mannau nodweddiadol eraill yn eich ardal. Gobeithio bydd hyn yn ysgogi eraill i wneud yr un daith. Mi fydd hyn yn cyd-fynd gyda Sefydliad Cavo gyda’r ymgyrch ‘Caru Ceredigion’.
Eleni rydym wedi penderfynu casglu arian tuag at Arch Noa yng Nghaerdydd; C.Ff.I. Ceredigion a’r Clybiau lleol. Bydd modd i chi gyfrannu a noddi ein sialens ar dudalen ‘Just Giving’ neu danfonwch eich rhodd ymlaen i C.Ff.I. Ceredigion yn y Swyddfa.
Felly beth amdani, chwant wâc ac am ymuno gyda ni?? Os y cyflawnwch 50 milltir mewn 30 diwrnod fe fyddwch yn derbyn anrheg i gofnodi’r achlysur.