Story
Cronfa Catrin
Fel y gwyddoch bellach mae Catrin Ifan aelod o staff Ysgol Bro Idris yn dioddef o Cancr ers tair blynedd. Mae staff yr ysgol wedi cychwyn Cronfa i Catrin ers dwy flynedd bellach, ac ar gais Catrin, yn awyddus i rannu arian gyda Macmillan sy’n helpu plant a’u teuluoedd ymdopi gyda profedigaeth o golli rhiant.
Dydd Gwener, 26ain o Fedi, mi fydd Mr Cellan Lewis, Mr Carl Williams a Mr Riki Rowlands yn beicio o amgylch safleoedd yr ysgol. Byddant yn cychwyn o Safle Dinas Mawddwy am 9:00 y bore, yna i Safle Rhyd-y-main, galw heibio safle Friog am ginio yna yn ôl heibio Safle Llanelltyd, Safle Cynradd Dolgellau, ac yn gorffen ar y Brif Safle. Taith beic o tua 38 milltir.
Os hoffech gyfrannu yn ariannol i gefnogi Cronfa Catrin, byddwn fel ysgol yn hynod o ddiolchgar. Llawer o ddiolch am eich cefnogaeth gadarn i Gronfa Catrin.
Diolch.
Cronfa Catrin
As you now know, Catrin Ifan, a member of staff at Ysgol Bro Idris, has been suffering from Cancer for three years. The school staff have started a Fund for Catrin for two years now, and at Catrin's request, are keen to share money with Macmillan which helps children and their families cope with the bereavement of losing a parent.
On Friday, 26th of September, Mr Cellan Lewis, Mr Carl Williams and Mr Riki Rowlands will cycle around the school sites. They will start from Dinas Mawddwy Site at 9:00 am, then to Rhyd-y-main Site, drop by Friog site for lunch then back past Llanelltyd Site, Dolgellau Primary Site, and finish at the Main Site. A bike ride of approximately 38 miles.
If you would like to contribute financially to support Cronfa Catrin, we as a school would be extremely grateful. Many thanks for your firm support of the Cronfa Catrin.
Thank you