I've raised £2500 to fund a voluntary year working with the Welsh Baptist Union

Organised by Eleri Alter
Donations cannot currently be made to this page
Local community

Story

English below Welsh.

Fis Medi byddaf yn dechrau blwyddyn yn gwirfoddoli gydag Undeb Bedyddwyr Cymru, bydd y flwyddyn yn canolbwyntio ar gyrraedd Cristnogion a datblygu Cristnogaeth yng ngogledd Cymru ac yn yr India.

Yn ystod y flwyddyn byddaf yn treulio chwech mis ym Mangor yn cydweithio â chapeli yn ardal Arfon yn dysgu sut maen nhw’n gwneud pethau ac rhoi cymorth i’r capeli hynny a’u cymunedau trwy gynnal gweithgareddau. Disgwyliaf i’r flwyddyn hon fod yn llawn ffrwyth ysbrydol, bydd hi’n gyfle i fi agosáu at Dduw yn ogystal â gwasanaethu cymunedau ac hyrwyddo Cristnogaeth yn y cymunedau hynny trwy cynnal gwaith plant, astudiaethau beiblaidd a treulio amser yn estyn at y gymuned .

Byddaf yn ymweld ag India am gyfnod o dair wythnos i genhadu yna – dydw i methu aros yn benodol i brofi ffordd amgen i fyw, a gobeithiaf ddangos goleuni’r Crist iddynt. Rhywbeth sy’n hynod o gyffrous yw’r ffaith i fy hen dad-cu genhadu yn yr India ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf yn dilyn tröedigaeth yn ystod Diwygiad 1904-5.

Fel y gallwch weld, bydd y flwyddyn yn brysur a heriol tu hwnt, os ydych yn fy nabod rydych yn gwybod faint bydd hwn yn fy nghymryd o ble dwi’n gyfforddus. Er mwyn gwneud y gwaith, mae’n rhaid casglu £2,500 erbyn diwedd fis Awst. Cyfranna’r arian at yr holl waith byddaf yn gwneud yn ystod y flwyddyn yn ogystal â’r profiad o genhadu yn yr India. Hoffwn ofyn am eich cymorth chi i gasglu’r arian hwn, does dim ots os na fedrwch roi llawer, bydd pob ceiniog yn fendith ac yn cael ei werthfawrogi’n fawr! Os na fedrwch gyfrannu’n ariannol, gofynnaf i chi weddïo drosof wrth i mi geisio codi’r arian er mwyn gwneud gwaith Duw.

Diolch am gymryd yr amser i ddarllen hwn. Os hoffwch wybod mwy dwi’n fwy na hapus i ateb unrhyw gwestiynau trwy neges.

Diolch a bo’r gogoniant i Dduw yn unig.

English.

In September I will be starting a Voluntary year with the Welsh Baptist Union, the year will be an outreach to Christians and Christianity in North Wales and India.

I will be spending six months of the year in Bangor working with churches in the Arfon region, learning how they’re ran and supporting their communities. The year will be filled with opportunities for spiritual growth as well as serving the community and sharing my faith. This will be done through children’s work, bible studies and spending time reaching out to the community.

I will also be a missionary in India for 3 weeks - I'm incredibly excited to see their way of life and support their local community. On a personal note, having the opportunity to visit India as a missionary is very touching as I will be following my great grandfather’s footsteps; he was a missionary in India at the beginning of the last century after his conversion during the revival in 1904-5.

As you can see, the year will be very busy and challenging, if you know me you know how much this year will pull me out of my comfort zone. In order to do this work I need to raise £2,500 by the end of August. This money will go towards facilitating the work I will doing throughout the year, in addition to the trip to India. I’d like to ask for your help in raising this money, it doesn’t matter how much you are able to give, every penny will be a blessing and very much appreciated! If you are unable to contribute financially, all I ask is that you pray for me as I go about raising the money to be able to do God’s work.

Thank you for taking the time to read this, I know it’s lengthy - there’s just so much to say! If you’d like to know more I will be more than happy to answer any questions, just send a message.

May the glory be to God, thank you.

About fundraiser

Eleri Alter
Organiser

Donation summary

Total
£450.00