Story
Scroll down for Welsh
We opened on 1st of November 2022 and so far we have had really positive feedback from the young people who attend and the adults in their lives.
We decided to invest in the building and the spaces we will be using and have been rewiring, repairing, insulating, plastering, fitting toilets and decorating. We have achieved a great deal. The space is now safe warm and clean but we still have some way to go.
We would like your help to finish the work on the two rooms, start to furnish the space with cupboards and shelving that will help us to function better, light the outdoor space and buy outdoor sports equipment, buy ongoing materials and food and start to put on chosen activities for the young people.
There is the option here to become a monthly donator and that would help us a great deal.
Thank you to everyone that supports us we are very grateful and so are the young people. Here are some quotes.
" Thanks for doing this. Its much better in here, it's warm" "It's just good to have somewhere I can see my mates" "Youth club was a brilliant idea" "Can you do it more days of the week" "I am now the best at tablefootball" "It would be better with a PS4 but it's alright you know"
Fe wnaethom agor ar Dachwedd y 1af a hyd yn hyn rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan y bobl ifanc sy'n mynychu yn ogystal â'r oedolion yn eu bywydau.
Penderfynom fuddsoddi yn yr adeilad a’r gofodau rydyn ni’n eu defnyddio ac rydym wedi bod yn ailweirio, atgyweirio, inswleiddio, plastro, gosod toiledau ac addurno. Rydyn ni wir wedi cyflawni llawer. Mae'r gofod bellach yn ddiogel, yn gynnes ac yn lân ond mae gennym dipyn o ffordd i fynd eto.
Hoffem eich help i orffen y gwaith ar y ddwy ystafell, dechrau dodrefnu'r gofod gyda chypyrddau a silffoedd a fydd yn ein helpu i weithredu'n well, goleuo'r gofod y tu allan, a phrynu offer chwaraeon awyr agored, bwyd, a deunyddiau parhaus, a dechrau darparu gweithgareddau y mae’r bobl ifanc wedi’u dewis.
Mae gennych chi'r opsiwn i ddod yn rhoddwr misol a byddai hynny'n ein helpu ni'n fawr.
Diolch i bawb sy'n ein cefnogi. Rydym yn ddiolchgar iawn ac felly hefyd y bobl ifanc. Dyma rai dyfyniadau:
"Diolch am wneud hyn. Mae'n llawer gwell yma, mae'n gynnes"
"Mae'n dda cael rhywle y gallaf weld fy ffrindiau"
"Roedd clwb ieuenctid yn syniad gwych"
"Allwch chi ei wneud yn fwy o ddyddiau'r wythnos?"
"Fi bellach yw'r gorau mewn pêl-droed bwrdd"
"Byddai'n well gyda PS4, ond mae'n iawn wyddoch chi"