Story
Shwmae, Hannah-Mae ydw i👋
Plymer ydw i o ddydd, sy’n golygu bod ddim ofni codi’n gynnar yn y bore, gwaith caled na phethau a fyddai’n gwneud i’r rhan fwyaf o bobl ddweud “na, dim diolch” arna i. Rydw i wastad wedi bod wrth fy modd yn cyflawni heriau, ac un diwrnod, daeth y syniad mai Record Byd Guinness fyddai’r cam amlwg nesaf.
Felly dyma fi, ar 12 Mehefin, yn mynd ati i geisio cwblhau’r triathlon digwyddiad sengl hiraf (answyddogol) y mae menyw wedi’i wneud, drwy nofio, beicio a rhedeg, heb egwyl, heb gymryd llwybrau byr, dim ond cryfder y meddwl a phenderfyniad...a falle cwestiynu fy mhenderfyniadau mewn bywyd ar hyd y ffordd.
Dydw i ddim yn gwneud hyn dim ond i brofi fy ngallu i mi fy hun, ond rydw i hefyd yn codi arian at ddwy elusen agos iawn at fy nghalon:
- Ysbyty Plant Birmingham
- Sandy Bear
Mae’r her yma yn teimlo fel y ffordd iawn o roi rhywbeth yn ôl, a hynny drwy wthio fy hun i’r pen er anrhydedd iddyn nhw.
Elusen Ysbyty Plant Birmingham yw’r elusen gyntaf rwy’n codi arian iddi ac yn codi ymwybyddiaeth ohoni, a hynny er mwyn diolch am y gofal arbennig gafodd Efa, merch fy nghyfnither, yno ar ôl iddi gael ei diagnosio â craniosynostosis, sef cyflwr prin sy’n effeithio ar ryw 1 o bob 2,500 o fabanod pan fydd esgyrn y benglog yn asio’n rhy gynnar.
Ar ôl i Efa newydd droi’n flwydd oed, roedd rhaid iddi gael llawdriniaeth fawr i gywiro hyn ac atal cymhlethdodau difrifol yn nes ymlaen mewn bywyd.
Mae Ysbyty Plant Birmingham yn dibynnu’n fawr ar roddion, ac mae eich cymorth yn meddwl y byd i fi ac i deulu Efa. Diolch i’w gofal neilltuol, mae Efa bellach yn byw bywyd hapus gyda dyfodol disglair o’i blaen.
Yr ail elusen rwy’n codi arian iddi yw Elusen Profedigaeth Plant Sandy Bear. Elusen leol yw hon sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi colli rhywun annwyl iddynt. Mae Sandy Bear yn cynnig lle diogel, llawn gofal lle gall plant siarad am eu teimladau, deall eu galar, a dechrau teimlo’n well. Trwy gymorth un i un, sesiynau grŵp a gweithgareddau creadigol, byddant yn helpu pobl ifanc i sylweddoli nad ydynt ar eu pen eu hunain yn ystod un o gyfnodau anoddaf eu bywydau.
Mae wedi bod yn anodd ofnadwy ymarfer ar gyfer hyn. Bydd yr ymgais ei hun yn anoddach fyth. Ond bydd gwybod bod pob milltir, pob pothell a phob poen yn y corff yn helpu achosion rydw i wir yn credu ynddyn nhw yn gwneud popeth yn werth chweil.
Os gallwch chi roi, bydd hynny’n wych.
Os gallwch chi rannu, bydd hynny’n wych hefyd.
Ac os byddwch chi’n meddwl “ma hi’n ddwl bost”...fyddwch chi ddim yn bell o’ch lle, ond diolch yn fawr i chi am fod yn rhan o’r daith ta beth ❤️
Diolch o galon am eich cefnogaeth,
Hannah-Mae
Hi, I’m Hannah-Mae 👋
By trade, I’m a plumber, meaning I’m not afraid of early mornings, hard graft, or things that make most people say, “yeah… no thanks.” I’ve always loved a challenge, and one day my brain decided that a Guinness World Record would be the obvious next step.
So here I am, on the 12th of June 2026 I'm attempting the longest single-event triathlon (unofficial) as a female, one continuous swim, bike and run, no breaks, no shortcuts, just a lot of grit, dedication… and probably some questionable life choices along the way.
I’m taking this on not just to test my limits, but to raise money for two charities that are incredibly close to my heart:
- Birmingham Children's Hospital
- Sandy Bear
This challenge feels like the right way to give something back, by pushing myself to the absolute edge in their honour.
The first charity I’m raising money and awareness for is Birmingham Children’s Hospital Charity in gratitude for the exceptional care they gave my cousin’s daughter, Efa, after she was diagnosed with craniosynostosis, a rare condition affecting around 1 in 2,500 babies where the skull bones fuse too early.
Just after turning 1 years old, Efa needed major surgery to correct this and prevent serious complications later in life.
Birmingham Children’s Hospital relies heavily on donations, and your support means the world to me and Efa’s family. Thanks to their exceptional care, Efa is now living a happy life with a bright future ahead
The second charity I’m raising money for is Sandy Bear Children’s Bereavement Charity. Sandy Bear is a local charity that supports children and young people who have experienced the loss of a loved one.
Sandy Bear provides a safe, caring space where children can talk about their feelings, understand their grief, and begin to heal. Through one-to-one support, group sessions, and creative activities, they help young people realise they are not alone during one of the hardest times in their lives.
Training for this has been tough. The attempt itself will be tougher. But knowing that every mile, blister and aching muscle is helping causes I truly believe in makes it all worth it.
If you can donate, amazing.
If you can share, just as amazing.
And if you’re thinking “she’s completely mad”… you’re probably not wrong, but thank you for being part of the journey anyway ❤️
Thank you so much for your support,
Hannah-Mae