I've raised £1000 to support Gweilch Glaslyn Ospreys

Plîs helpwch fi a Nia i godi arian ar gyfer Bywyd Gwyllt Glaslyn, yr unig elusen annibynnol yng Nghymru sy’n bodoli i warchod Gweilch y Pysgod. Ar Mai 28 byddwn yn ymgymryd â her mynydda fydd yn cynnwys copaon Yr Wyddfa, y Cnicht a’r Moelwynion – y mynyddoedd hardd sy’n ffurfio’r olygfa banoramig syfrdanol a welir o Ganolfan Ymwelwyr Glaslyn a’r Guddfan ym Mhont Croesor. Byddwn yn anelu at wneud yr her mewn un diwrnod gan ddechrau yn Llanberis oriau mân y bore a gorffen yn Nhanygrisiau. Bydd y daith heriol yn ymestyn dros 35km a chyfanswm o 3,254 metr o uchder, ond rydym yn gobeithio y bydd cefnogwyr Gweilch y Pysgod yn ein dilyn ar ein taith yn ystod y dydd ac yn cael eu hysbrydoli i wneud unrhyw gyfraniad bach neu fawr at yr achos gwych hwn.
Please help me and Nia raise money for Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife, the only independent charity in Wales that exists to protect Ospreys. On 28 May will be taking on a mountain challenge, taking in the peaks of Yr Wyddfa, Cnicht and the Moelwynion – the beautiful mountains that form the stunning panoramic view seen from the Glaslyn Visitor Centre and Hide at Pont Croesor. We will aim to do the hike in one day starting in Llanberis in the early hours of the morning and finishing in Tanygrisiau. It will be a challenging hike covering 35km and a total of 3,254 meters in elevation, but we hope Osprey supporters will follow us on our journey during the day and feel inspired to donate whatever they can to this wonderful cause.