I've raised £20000 to save "Cofiwch Dryweyn" - Achub y wal - Save the wall

Mae dros hanner can mlynedd ers i bentref Capel Celyn gael ei foddi. Roedd Capel Celyn yn gymuned wledig ger y Bala yng Ngwynedd, yn nyffryn Afon Tryweryn. Llifogwyd y pentref a rhannau eraill o'r dyffryn i greu cronfa ddŵr, Llyn Celyn, er mwyn cyflenwi dŵr i Lerpwl a Chilgwri. Peintiwyd y geiriau 'Cofiwch Dryweryn' ar fur bwthyn adfail ger yr A487 yn Llanrhystud, y tu allan i Aberystwyth. Mae'r symbol eiconig hwn wedi dod i fod yn arwyddnod cenedlaethol ac yn ein atgoffa o'r bennod honno yn hanes Cymru. Mae'r Cyngor Cymuned a minnau wedi bod yn ceisio codi arian i achub y wal ers peth amser ac mae'r digwyddiadau diweddar wedi atgyfnerthu'r awydd hwn. Os gallwn godi digon o arian, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cytuno i gynnal y wal am byth. Credwn mai dyma'r unig ffordd ddichonadwy o gadw'r heneb hon. Rhowch yn hael os gwelwch yn dda. Diolch o galon.
It has been over fifty years since the village of Capel Celyn was drowned. Capel Celyn was a rural community near Bala in Gwynedd, in the River Tryweryn. The village and other parts of the valley were flooded to create a reservoir, Llyn Celyn, to supply water to Liverpool and the Wirral. The words 'Cofiwch Dryweryn' were painted on a cottage ruin wall near the A487 at Llanrhystud, outside Aberystwyth. This iconic symbol has become a national landmark and reminds us of that episode in Welsh history. The Community Council and I have been trying to raise money to save the wall for some time and recent events have reinforced this desire. If we can raise enough money, the National Trust has agreed to maintain the wall in perpetuity. We believe this is the only viable way to keep this monument. Please give generously. Thank you.