I've raised £2000 to Taith gerdded a beicio er cof am ein ffrind Cefin Edwards/ Walk and cycle in memory of our friend Cefin Edwards

Yn ôl yn mis Rhagfyr derbyniwyd newyddion hynod o drist bod ffrind a chydweithiwr i lawer un ohonom yn Cyngor Gwynedd, Cefin Edwards wedi marw yn dilyn cyfnod byr o salwch. Mae ein meddyliau i gyd yn parhau i fod gyda theulu Cefin ac ei gydweithwyr yn yr Adran YGC.
Roedd Cefin pob tro hefo gwên ar ei wyneb (direidus medda rhai) a mwy na pharod i gefnogi pawb gan ddefnyddio ei brofiad eang. Roedd yn ddiplomydd, gyda’r gallu i uniaethu gydag ystod eang o bobl o du mewn a thu allan i’r Cyngor, ac yn fodlon rhoi syniadau unigryw ac ymarferol ymlaen er gwella'r atebion i unrhyw broblem. Roedd Cef yn uchel iawn ei barch ar draws yr Adran, y Cyngor a’r diwydiant.
Ymunodd Cefin a'r hen Gyngor Sir Gwynedd yn 1979 o McAlpines, lle gweithiodd ar gynllun enfawr “Dinorwic Hydro Electric Power”. Yn ei amser gyda’r Cyngor gweithiodd ar bob math o gynlluniau heriol iawn.
Roedd yn uchel iawn ei barch oherwydd ei wybodaeth a’i brofiad; mwy na dim, ei gymeriad oedd yn allweddol i hyn. Rydym i gyd yn YGC wedi colli cydweithiwr a ffrind hoffus a phoblogaidd. Braint oedd cael gweithio hefo Cef a’i alw yn ffrind.
_____________________________
Back in December we received extremely sad news that a friend and colleague of many of us at Gwynedd Council, Cefin Edwards had died following a short illness. All of our thoughts remain with Cefin's family and his colleagues in the YGC Department.
Cefin always had a smile on his face (mischievous some say) and was more than happy to support everyone using his wide experience. He was a diplomat, able to relate to a wide range of people from inside and outside the Council, and was willing to put forward unique and practical ideas to improve solutions to any problem. Cef was highly regarded across the Department, the Council and the industry.
Cefin joined the former Gwynedd County Council in 1979 from McAlpines, where he worked on a massive "Dinorwic Hydro Electric Power" scheme. In his time with the Council he worked on all sorts of very challenging schemes.
He was highly regarded for his knowledge and experience; most of all, his character was the key to this. We at YGC have all lost a much loved and respected colleague and friend. It was a privilege to work with Cef and call him a friend.