Story
Gydag iechyd meddwl ar ei gynnydd, mae Ffermwyr Ifanc Eryri yn cynnal Taith Feics Noddedig o Gaernarfon ar hyd Lôn Eifion ac yna i Fryn Mawr, Llanaelhaearn ddydd Sadwrn 9fed o Orffennaf. Byddwn yn casglu arian tuag at 4 elusen iechyd meddwl amhrisiadwy sef DPJ Foundation, Mind Cymru, Meddwl.org a Samariaid. Gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad. Diolch yn fawr iawn.