Coda Ni

Coda Ni

Fundraising for Christian Aid
£5,001
raised of £5,000 target
by 58 supporters
Donations cannot currently be made to this page
Bach o bopeth, 15 November 2011
Participants: Bach o bopeth
Christian Aid

Verified by JustGiving

RCN 1105851, SC039150
We fight poverty worldwide to give everyone the chance to thrive

Story

APEL CODA NI AT BROSIECT CYMORTH CRISTNOGOL I ATGYFNERTHU CYMUNEDAU YN BURKINA FASO SY'N DIODDEF O GANLYNIAD I EFFAITH LLIFOGYDD SYDYN


Yn ystod 2010/2011 llwyddodd Criw Coda Ni i godi £5000 fel partner ym mhrosiect Cymorth Cristnogol i gefnogi cymunedau bregus a newynog ar gyrion y Sahara yn Burkina Faso.

O ganlyniad i ymgyrch Cymorth Cristnogol y mae cymunedau yn nhaleithiau Oudalan a Gorom Gorom wedi derbyn storfeydd grawn newydd - gyda phwyllgorau o bobl leol i rannu bwyd argyfwng -
ac hefyd ffynhonnau dwr a hadau o fath newydd i olygu fod tir ymylol yn gallu cynhyrchu bwyd ac atal ymlediad y twyni tywod. Rhoddwyd darnau o dir ymylol i'r bobl dlotaf a oeddent heb dir fel eu bod yn gallu bwydo eu hunain ac adfer hunan-barch.

Fodd bynnag, gwnaeth llifogydd sydyn (sy'n digwydd yn rheolaidd yn eironig iawn) ddinistrio llawer o'r gwaith da a wnaed. Mae gwrthweithio effaith y llifogydd yn destun i brosiect newydd Cymorth Cristnogol.

Mae'r llifogydd yn dinistrio adeiladau ac yn difa anifeiliaid sy'n sail i allu'r cymunedau i'w bwydo eu hunain. Bwriad y prosiect newydd

* Adfer y cyflenwad bwyd

* Trwsio ac uwchraddio'r offer amaethyddol a ffynhonnau

* Hyfforddi cymunedau mewn dulliau o leihau effaith ddinistriol lifogydd trwy adeiladau argaeau a phlannu coed

* Sefydlu gerddi masnachol i hybu'r economi lleol.


----------------------------------------------------------------------------

Sefydlwyd Criw "Coda Ni" yn 2009 yn ardal Pencader. Rydym yn griw o Gristnogion sy'n awyddus i estyn llaw cariad Duw i godi pobl anghenus i brofi bywyd yn ei gyflawnder. Fel hyn y cawn ninnau oll ein codi i fywyd.

Yn Hydref 2010, ymwelodd tri o griw "Coda Ni" a Burkina Faso i ymweld a'r cymunedau bregus yn ardal Gorom Gorom o Burkina Faso er mwyn gweld prosiect Cymorth Cristnogol ar waith. Cewch weld y ffilm YMA.  Yn rhyfeddol, y mae'r ffilm yn cyfeirio at broblem y llifogydd sydyn sy'n destun i brosiect newydd Cymorth Cristnogol, ac yr ydym wedi cymryd hyn yn arwydd y dylem fabwysiadu'r prosiect newydd.

Rydym wedi cofrestru fel partner i Gymorth Cristnogol yn y prosiect ac wedi ymrwymo i godi £5000 cyn diwedd 2012. Bydd yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi £4 am bob £1 a godwn ni, a gall £25,000 wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau yn Burkina Faso.

Apeliwn arnoch felly i gyfrannu ac apeliwn ar grwpiau, cymdeithasau ac eglwysi y tro hwn i ymuno a ni yn y gwaith. Byddwn yn barod iawn i ymweld a chi ac wrth gwrs gydnabod eich cyfraniad.

About the charity

Christian Aid

Verified by JustGiving

RCN 1105851, SC039150
We work with churches, individuals and local organisations in communities worldwide, supporting people of all faiths and none to rise out of poverty. We help people survive disasters, deal with the impact of climate change, find shelter from conflict and have a voice in their communities.

Donation summary

Total raised
£5,000.20
+ £604.55 Gift Aid
Online donations
£2,636.20
Offline donations
£2,364.00

* Charities pay a small fee for our service. Find out how much it is and what we do for it.