Story
Ym mis Mai bydd Gerallt Williams, Meilir Williams, Dylan Owen, Owain Llyr ac Osian Edwards yn cychwyn ar daith o Gaerdydd i Baku, Azerbaijan, mewn hen 'gludwr pobl' o'r enw Val. Mewn pryd gobeithio ar gyfer y gem rhwng Azerbiajan a Chymru ar 6 Mehefin. Aparantli mae o reit bell ac ma rhai darnau hyd yn oed yn waeth na'r A470. Ar ein ffordd mi fyddwn yn ymweld ag 20 cartref plant i roi cymorth ac anrhegion i blant dan anfantais yn Slofacia, Hwngari, Rwmania, Bwlgaria, Twrci, Georgia ac Azerbaijan.
Byddai'r pump ohonom yn gwerthfawrogi'n fawr petaech chi'n cyfrannu rhywfaint at yr ymgyrch. Mi fydd eich arian yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant yn y gwledydd hyn.
Mi fyddwn yn cynnal cwis yn y Duke of Clarence, Canton ar 3 Ebrill i godi arian ac yn cyhoeddi digwyddiadau eraill cyn hir!
Mae cyfrannu drwy Justgiving yn gyflym, hawdd ac yn hollol ddiogel. Mae hefyd y ffordd fwyaf effeithlon o'n noddi: mae Gol yn derbyn yr arian yn gynt, ac os ydych yn drethdalwr yn y DU, mae Justgiving yn sicrhau bod Cymorth Rhodd o 25%, a thal atodol o 3%, yn cael eu hychwanegu at eich rhodd.
DIOLCH!
In May, Gerallt Williams, Meilir Williams, Dylan Owen, Owain Llyr and Osian Edwards shall be embarking on a journey from Cardiff to Baku, Azerbaijan, in an old people carrier called Val, hopefully in time to see the Azerbaijan v Wales game on 6th June. Apparently it's quite far and some roads are even worse than the A470. On the way we'll be visiting 20 orphanages to donate gifts and aid to disadvantaged children in Slovakia, Hungary, Romania, Bulgaria, Turkey, Georgia and Azerbaijan.
The five of us would be extremely grateful if you made a donation. Your money will make a huge difference to the lives of children in these countries.
We're hosting a quiz at the Duke of Clarence, Canton on 3rd of April to raise funds and we'll be announcing some more events soon!
Donating through Justgiving is quick, easy and totally secure. It’s also the most efficient way to sponsor us: Gôl gets your money faster and, if you’re a UK taxpayer, Justgiving makes sure 25% in Gift Aid, plus a 3% supplement, are added to your donation.
THANKS!!!!