Siriol Teifi

Cymorth Cymru i Niger - Aid to Niger

Fundraising for Medecins Sans Frontieres / Doctors Without Borders (MSF)
£1,420
raised of £5,000 target
by 30 supporters
Donations cannot currently be made to this page
Cymorth Cymru i Niger - Aid to Niger, 13 March 2007
We provide emergency medical care worldwide to people affected by conflict & disasters.

Story

******GALLWN NI NEUD GWIR WAHANIAETH...Diolch yn fawr i bawb sy'n 
cyfrannu..roeddwn i'n meddwl y gallen ni yng Nghymru wneud cyfraniad
bach i liniaru'r dioddefaint, ond rydyn ni wedi pasio'r targed cyntaf.
Rwyf yn awr wedi gosod targed newydd er mwyn i ni wneud gwir wahaniaeth
i'r sefyllfa a sicrhau fod bywydau'n cael eu hachub. Gawn ni estyn allan at blant Niger fel
Cymry.
Press here to read about Siriol's Campain in ENGLISH

Niger yw'r wlad dlotaf yn y byd. Ym mis Ionawr 2007 fe wnes i ymweld â Maradi yn Niger er mwyn gweld drosof fy hun y dioddefaint yn y wlad. 

Bum yn ymweld ag Ysbyty Maes gan Medecins Sans Frontieres 'centre de nutrition de Médecins Sans Frontières à Maradi' - ysbyty sydd yno ers 6 mlynedd ac yn llawn ar hyn o bryd. Mae 3 ward ar gyfer plant sy'n newynu. Yn y ward cyntaf y mae plant sydd mor wan fel y gallent farw unrhyw ddiwrnod. Yn yr ail ward y mae plant sy'n dechrau gwella. Yn y trydydd ward y mae'r plant bach sydd wedi cryfhau ddigon nes eu bod bron yn barod i ddychwelyd at eu cartrefi.

Dywedodd y staff wrthyf mai'r hyn oedd yn eu gyrru nhw oedd gweld nifer o'r plant yn llwyddo i'w gwneud hi trwy'r 3 ward ac yn cael dychwelyd at fywyd.

Felly, wnes i benderfynnu sefydlu y Gronfa Arbennig hon i helpu cyllido'r ysbyty hwn.

Cofia bod cyfran helaeth o'r plant hyn ddim yn cyrraedd ei 5ed penblwydd, gallwch chi wneud gwir wahaniaeth i'w gobaith am fywyd.

Cyfrannwch yn hael yn awr, a bydd yr arian yn cael ei ddanfon gan MSF yn uniongyrchol i gynnal y ganolfan hon yn Maradi.

Mae rhoddion trwy'r wefan hon yn syml, yn gyflym ac yn gwbwl ddiogel. Bydd Médecins Sans Frontières UK yn derbyn yr arian o fewn wythnos, ac os ydych yn drethdalwr Prydeinig, caiff 28% mewn treth ei ychwanegu at eich rhodd heb unrhyw gost ychwanegol i chi.

Rhoddwch yn awr, a rhowch wybod i'ch ffrindiau.

Am fwy wybodaeth - www.cymorthniger.com

Cysylltwch gyda Siriol trwy ebost- siriol@cymorthniger.com neu drwy'r post at Siriol Teifi, Dolwerdd, Llanfihangel-ar-arth, Pencader, Sir Gâr, SA39 9JU (Ffôn: 01559-384378)

*****WE CAN MAKE A REAL DIFFERENCE..Thanks to everyone who has 
contributed so far. I set an initial target thinking that we in Wales
could make a small contribution to alleviating the suffering of the
world's most vulnerable children, but we've passed that target. I've
set a new target with the aim of making a real difference to the situation
and ensuring that lives are saved. Let's reach out from Wales to the children of Niger.

About the charity

Médecins Sans Frontières / Doctors Without Borders (MSF) is the world's leading medical humanitarian aid organisation. We work in over 70 countries - in conflict zones, natural disasters and epidemics. We are independent, neutral and impartial. We provide medical care where it's needed most.

Donation summary

Total raised
£1,420.00
+ £217.18 Gift Aid
Online donations
£1,320.00
Offline donations
£100.00

* Charities pay a small fee for our service. Find out how much it is and what we do for it.