Story
Bore dydd Sul, Medi 20fed 2009 byddaf yn rhedeg 26.2 milltir ym MarathonBerlin. Fel hwb ychwanegol i mi wrth redeg y milltiroedd caled a phoenus dros yr haf wrth hyfforddi, ac ar y diwrnod ei hun, rwyf wedi penderfynu codi arian tuag at achos da – Ymchwil Cancer Cymru.
Ymchwil Cancer Cymru yw’r unig elusen gancr sy’n canolbwyntio’n llwyr ar Gymru, ac mae eu labordy ymchwil wedi ei leoli yng Nghanolfan Gancr Felindre, yng Nghaerdydd.
Mae’r ystadegau’n frawychus – mae 1 o bob 4 ohonom yn marw o gancr, ac mae 1 o bob 3 ohonom yn dod i gyswllt â chancr ar ryw bwynt yn ein bywydau. Fel y mwyafrif ohonoch mae’n debyg, y mae cancr wedi cyffwrdd ac effeithio arnaf i’n bersonol a’m teulu dros y blynyddoedd diwethaf. Yr unig ffordd posibl i newid y ffeithiau hyn yw trwy fuddsoddi mewn ymchwil, ac rwyf yn gofyn i chi wneud gwahaniaeth drwy fy noddi ar gyfer y marathon.
Bydd holl gostau’r daith (teithio, llety ayb) yn dod yn syth o’m mhoced i, ac felly bydd bob ceiniog sy'n cael ei gyfrannu yn mynd yn uniongyrchol tuag at elusen Ymchwil Cancer Cymru.
Os ydych yn dymuno fy noddi, cofiwch glicio ar 'Gift Aid' yn pgystal, er mwyn i'r elusen dderbyn 25% ychwanegol gan y llywodraeth.
DIOLCH YN FAWR IAWN AM BOB CEFNOGAETH
................................................................................................................
On Sunday September 20th I will be running 26.2 miles in the Berlin Marathon. As an added incentive whilst I tread those hard and painful miles in training over the summer, and on the day itself, I have decided to raise money for a good cause - Cancer Research Wales.
Wales Cancer Research is the only cancer charity that concentrates solely on , and their research laboratory is based in the Velindre Cancer Centre in Cardiff.
The statistics are horrifying – one in every four of us will die of cancer, and one in every three of us will come into contact with cancer at some point in our lives. As is the case with most of you I’m sure, my family and I have come into contact with, and have been affected by cancer during recent years. The only possible chance we have of changing these facts are by investing in research, and I ask you to make a difference by sponsoring me for the marathon.
I will be paying all the journey’s expenses (travelling, accommodation etc.) from my own pocket and therefore every penny donated will go directly towards the Wales Cancer Research charity.
If you wish to sponsor me, remember to also click on ‘Gift Aid’, so that the charity receives an additional 25% from the government.
THANK YOU VERY MUCH FOR YOUR SUPPORT
