Story
this is a bilingual message - please scroll down to view the English section.
Mencap Cymru
Bob wythnos yng Nghymru bydd 12 baban yn cael ei eni gydag anabledd dysgu. Mae dros 60,000 o unigolion ag anabledd dysgu yng Nghymru. Mencap Cymru yw’r elusen fwyaf blaenallaw yn y maes hwn gan weithio gydag oedolion a phlant sydd ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Rydym yn gweithio i roi terfyn ar ragfarn a gwahaniaethu, ac yn darparu rhychwant eang o wasanaethau o safon. Mae Mencap Cymru yn cael ei yrru gan gred ysol y dylai’r rheini ag anabledd dysgu fod â’r un cyfleoedd a phawb arall yn ein cymdeithas. Rydym yn brwydro i newid cyfreithiau a gwasnaethau, ac yn cefnogi miloedd o bobl yn uniongyrchol er mwyn eu galluogi i fyw eu bywydau yn y ffordd y dymunant wneud hynny, gan gefnogi pobl ag anabledd dysgu i fyw bywydau annibynol a chyflawn.
Every week in Wales 12 babies will be born with a learning disability.
There are over 60,000 people with a learning disability in Wales.
Mencap Cymru is the leading Welsh charity working with children and adults with a learning disability, their families and carers. We fight to end discrimination and prejudice, and provide a wide range of quality services.
Mencap Cymru are driven by a passionate belief that people with a learning disability should have equal rights and chances in society.
We fight to change laws and services, and directly support thousands of people to live their lives the way that they want. Mencap Cymru provides a full range of services, enabling people with a learning disability to lead fulfilled and independent lives.
Taith Patagonia Trek - Hydref / October 2008
Mae gan Gymru a Phatagonia berthynas unigryw.
Ar 24 Mai 1865 hwyliodd 162 o deithwyr o bob cwr o Gymru i dde’r Amerig ar fwrdd y Mimosa. Glaniodd y Mimosa yn y Bae Newydd ar 28 Gorffennaf 1865 a chofir y dyddiad hwn o hyd fel Gwyl y Glaniad. Mae o ddeutu 5,000 o bobl yn dal i siarad Cymraeg yn yr Ariannyn, a chynhelir Eisteddfod bob blwyddyn.
Mae Mencap Cymru yn trefnu taith i Batagonia ym mis Hydref 2008, ac rwyf i yn cymryd rhan.
Bydd hwn yn gryn antur, gyda 5 niwrnod yn cael ei dreulio yn cerdded ym Mharc Cenedlaethol Los Glaciares. Mae yno blanhigion prin a bywyd gwyllt amrywiol. Bydd y daith yn cael ei harwain gan y naturiaethwr adnabyddus Iolo Williams. Mae’r Parc Cenedlaethol â thirwedd drawiadol a mynyddoedd mawreddog.
Yn dilyn y daith ar droed bydd taith hefyd i weld morfilod cywir y de yn agos at Benryn Valdes ac ymweliad â’r gymuned Gymraeg ei hiaith yn y Gaiman.
Cofiwch ymweld yn gyson â http://www.patagonia2008.org.uk er mwyn gweld sut mae'r paratoadau ar gyfer y daith yn mynd.
Wales and Patagonia share a unique relationship.
On 24 May 1865, bound for a new life in South America, 162 passengers from all over Wales boarded The Mimosa. The Mimosa landed at New Bay on 28 July 1865 and this date is still celebrated as "The Festival of Landing". The Welsh language is still spoken by about 5,000 people in Argentina, and an Eisteddfod is held every year.
Mencap Cymru are organising a trek in Patagonia in October 2008, and I am taking part.
This will be a special adventure, with 5 days trekking in the Los Glaciares National Park, which has stunning landscapes and majestic mountains. There are rare plants and wildlife and this can be enjoyed in the company of naturalist Iolo Williams.
Following the trek there will be a trip to see the southern right whales at the Peninsula Valdes. To complete the trip there will be a visit to the Welsh speaking community in Gaiman.
Remember to visit http://www.patagonia2008.org.uk regularly to see how my preparations for the trek are going.