Story
Rwy’n codi arian ar gyfer Trechu Canser
y Coluddyn gan fod hon yn elusen sy’n gwneud gwaith hanfodol i (i) cefnogi
unigolion a theuluoedd sy’n byw â diagnosis canser y coluddyn (canserau’r colon
a’r rhefr), (ii) hyrwyddo diagnosis cynnar o ganser y coluddyn (iii) ymgyrchu i
gael y safon uchaf o driniaeth a gofal i gleifion canser y coluddyn.
Yn y Deyrnas Unedig mae tua 40,000 o bobl yn cael diagnosis canser y coluddyn bob blwyddyn, sy’n golygu y bydd 1 o bob 20 yn dioddef o ganser y coluddyn yn ystod eu bywydau. Er bod llawer yn ystyried yr afiechyd hwn fel un sy’n effeithio ar bobl hŷn, gall effeithio ar bobl o bob oed. Bob blwyddyn mae 16,000 o bobl yn marw o ganlyniad i ganser y coluddyn ac mae’r ffigurau goroesi’n neilltuol o wael yma yng Nghymru. Oedi wrth atgyfeirio a diagnosis gan ddarparwyr gofal sylfaenol ac eilaidd sydd yn aml yn gyfrifol am hyn. I lawer, erbyn i ganser y coluddyn cael ei ddarganfod mae wedi lledaenu i rannau eraill o’r corff (clefyd eilaidd) sy’n golygu bod modd rheoli’r canser ond ni ellir ei waredu. Yn anffodus mae cleifion yng Nghymru sydd â chanser eilaidd o’r coluddyn yn cael anhawster cael cyffuriau sydd ar gael yn rhwydd iawn yn Lloegr. Drwy godi arian ar gyfer Trechu Canser y Coluddyn (sydd ag arwyddocâd personol i mi), gobeithiaf yn fawr y bydd cyfraddau canfod a diagnosis yn gwella ac wrth wneud hyn gobeithiaf hefyd y byddaf yn codi rhagor o ymwybyddiaeth o’r angen i gael hawl teg i gael cyffuriau canser y coluddyn yng Nghymru, wrth gefnogi ymgyrch #hawlifyw #fightingchance.
I am raising money for Beating Bowel Cancer because this is a charity that does vital work to (i) support individuals and families living with a diagnosis of bowel cancer (colon or rectal cancers), (ii) promote early diagnosis of bowel cancer (iii) campaign for the highest quality of treatment and care for bowel cancer patients.
In the UK approximately 40,000 people are diagnosed with bowel cancer a year, meaning that 1 in 20 will develop bowel cancer in their lifetime. Although it is thought of as a disease of older age it can affect anyone at any age. Every year 16,000 people in the UK lose their life to bowel cancer, survival rates are particularly poor in Wales. This is often due to delays in referrals and diagnosis by primary and secondary care providers. For many patients by the time bowel cancer is diagnosed it has spread to other parts of the body (secondary disease), which means whilst the disease can be controlled it cannot be cured. Unfortunately in Wales patients living with secondary bowel cancer struggle to access drugs readily available in England. By raising money for Beating Bowel Cancer (which has personal significance to me) I hope early detection and diagnosis rates will be improved and I also hope by doing this I will further raise awareness of fair access to secondary bowel cancer drugs in Wales in support of the #hawlifyw #fightingchance campaign.