Story
Richard Lewis (Haydn Richard Peredur Lewis)
30/1/1938 - 15/12/16
Mab y Mans o Ton Pentre, Rhondda, oedd Richard (Dic) Lewis, gyda'i wreiddiau yn Aberaeron a Pontarfynach. Ar ôl cyfnod byr fel athro Bioleg ac organydd yn Nhyddewi, aeth i weithio yn Adran Newyddion y BBC yng Nghaerdydd yn nyddiau cynnar byrlymus BBC Cymru yn y 60au. Cafodd ddyrchafiad i fod yn bennaeth yr Adran Rhaglenni Nodwedd a Dogfen yn y 70au. Roedd yn gynhyrchydd a chyfarwyddwr toreithiog gyda'r BBC am 25 mlynedd yn gwneud ffilmiau i'r rhwydwaith: bwygraffiadau fel 'Dylan', 'Nye', 'The Revivalist', 'The Extremist' a 'The Fasting Girl', a chyfresi fel 'Look Stranger', 'Pride of Place' a 'The Celts'. Roedd hefyd yn gyfrifol am ddarlledu rhaglenni o'r Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Llangollen a Sioe Frenhinol Cymru.
Ym 1988 fe ddaeth yn gynhyrchydd annibynnol gyda Teledu Opus yn creu cyfresi Drama i S4C fel 'Y Palmant Aur', 'Y Filltir Sgwâr', 'Halen yn y Gwaed' a ffilmiau megis 'Sul y Blodau', 'Nel', 'Yr Ynys' ac 'Y Weithred'. Gweithiodd yn agos gydag awduron talentog megis Paul Ferris, Meic Povey, Manon Rhys, T. James Jones a William Nicholson, i gynhyrchu dramâu a fyddai'n adlewyrchu ein celfyddyd gref fel Cenedl.
Dechreuodd ei gysylltiad gyda'r Urdd nôl yn y 50au, fel 'swog' yng Ngwersylloedd Llangrannog a Glanllyn. Roedd gan y teulu gysylltiad eisoes gyda'r Urdd, gan fod ei chwaer Carol Lewis yn un o weithwyr cynnar y mudiad. Yn drist iawn, bu farw Carol yn 1958 yn 23 oed, ac fe godwyd arian i greu cronfa goffa iddi - cronfa a fyddai'n rhoi siawns i blentyn o gartref plant amddifad allu mynychu'r gwersyll bob blwyddyn.
Wrth fynychu Gwersyll Glanllyn y gwnaeth Richard gwrdd a'i wraig, Bethan, am y tro cyntaf. Mae yna gopi o ffilm 'ciné' 8mm a wnaeth Richard (pan oedd yn 'swog') yn archif yr Urdd. Roedd yn gefnogol iawn o'r Urdd, Celfyddyd ac Addysg Gymraeg, yn ogystal a bod yn fentor i lawer o bobl ifainc oedd yn ymuno â'r BBC yn ystod ei amser ffrwythlon yno.
* * * *
Richard (Dic) Lewis was the son of The Manse from Ton Pentre, Rhondda, with his roots in Aberaeron and Devil's Bridge. After a short period as a Biology teacher and organist at Tyddewi (St. David's), he joined the BBC News Department in Cardiff in the early exciting days of BBC Cymru in the 60's. He was promoted to Head of Features and Documentaries in the 70's. He was a prolific producer and director with the BBC for 25 years, making biographical dramas for the network: 'Dylan', 'Nye', 'The Revivalist', 'The Extremist', and 'The Fasting Girl', and series like 'Look Stranger', 'Pride of Place' and 'The Celts'. He was also responsible for the programmes transmitted from the National Eisteddfod, Llangollen Eisteddfod and Royal Welsh Show.
In 1988 he became an independent producer with Opus Television, creating drama serials for S4C like 'Y Palmant Aur', 'Halen yn y Gwaed' and 'Y Filltir Sgwâr', and the films 'Sul y Blodau', 'Nel', Yr Ynys' and 'Y Weithred'. He worked closely with talented authors such as Paul Ferris, Meic Povey, Manon Rhys, T. James Jones and William Nicholson, to produce dramas which would reflect our strong culture as a nation.
His link with the Urdd began in the 50's, as a 'swog' in the camps of Llangrannog and Glanllyn. His family already had a close association with the Urdd, as his sister Carol Lewis had worked there earlier. Sadly, Carol died in 1958 just 23 years old, and money was raised to create a trust fund in her name - a fund which would give a child from a children's home the chance to go to one of the camps each year.
It was when attending Glanllyn that Richard first met his future wife, Bethan, for the first time. There is an 8mm 'ciné' film which Richard shot (when he was a 'swog') in the Urdd archives. He was very supportive of the movement, the arts and Welsh education, and was also a mentor to many young people who joined the BBC during his productive time there.