Story
About Our Home
Ballet Cymru established its current home on the Wern Trading Estate, Rogerstone in 2015 as a base for the company’s rehearsals and training programmes. Ten years on, and thanks to successful capital funding applications, significant refurbishment works have resulted in two spacious purpose-built dance studios, office facilities and dedicated storage -- including storage for the extraordinary collection of beautiful costumes created over the charity’s 44-year history.
Now, we are ready for the next leap – onto our own stage.
Our vision is to open our building to the community as a fully equipped cultural venue for performances, events and creative activity.
This year’s Festive Fundraiser marks the official launch of the campaign to make this vision a reality, as Ballet Cymru continues its unique journey to becoming a national ballet company for Wales.
//
Gwybodaeth am Ein Cartref
Sefydlodd Ballet Cymru ei gartref presennol ar Ystad Fasnachu y Wern, Tŷ-du yn 2015, a hynny fel canolfan ar gyfer ymarferion a rhaglenni hyfforddi'r cwmni. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, a diolch i geisiadau llwyddiannus am gyllid cyfalaf, mae gwaith adnewyddu sylweddol wedi arwain at ddwy stiwdio ddawns bwrpasol, helaeth, cyfleusterau swyddfa, a storfeydd pwrpasol – gan gynnwys storfa ar gyfer y casgliad eithriadol o wisgoedd prydferth a grëwyd dros hanes 44 blynedd y cwmni.
'Nawr, rydym yn barod am y cam nesaf – ar ein llwyfan ein hun.
Ein gweledigaeth yw agor ein hadeilad i'r gymuned, a hynny fel lleoliad diwylliannol ac ynddo'r holl adnoddau priodol ar gyfer perfformiadau, digwyddiadau a gweithgarwch creadigol.
Mae Ymgyrch Codi Arian Nadoligaidd eleni yn nodi lansiad swyddogol yr ymgyrch i wireddu'r weledigaeth hon, wrth i Ballet Cymru barhau ar ei daith i fod yn gwmni ballet cenedlaethol i Gymru.
Campaign by