The Body Donor Memorial Project celebrates the invaluable contributions of those who donate their bodies to medical education and research.
Their generosity provides an extraordinary resource for hands-on learning, giving medical students and professionals a deeper understanding of human anatomy and disease.
We are raising funds to honour these body donors and hope to use the donations to elect a dedicated sculpture as a memorial.
We want to commission a sculpture by local artist Lee Odishow at Singleton campus, serving as a lasting tribute to the body donors' selfless contributions. The memorial will honor their remarkable gift, appreciated by Swansea University’s Human Anatomy teaching and learning community. It will also create a space for reflection on body donors' impact on future generations of healthcare professionals.
Mae'r Prosiect Coffáu Rhoddwyr Corff yn dathlu cyfraniadau amhrisiadwy y rhai hynny sy'n rhoi eu cyrff at ddibenion addysg ac ymchwil feddygol.
Mae eu haelioni'n darparu adnodd eithriadol ar gyfer dysgu ymarferol, gan roi i fyfyrwyr a gweithwyr meddygol proffesiynol ddealltwriaeth ddyfnach o anatomeg ddynol a chlefydau.
Rydym yn codi arian i anrhydeddu'r rhoddwyr corff hyn a'n gobaith yw defnyddio'r rhoddion i godi cerflun arbennig er cof iddynt.
Hoffem gomisiynu cerflun gan yr artist lleol, Lee Odishow, ar Gampws Singleton a fydd yn deyrnged parhaol i gyfraniadau anhunanol y rhoddwyr corff. Bydd y cerflun yn anrhydeddu eu rhodd anhygoel, sy'n cael ei gwerthfawrogi gan gymuned dysgu ac addysgu Anatomeg Ddynol Prifysgol Abertawe. Bydd hefyd yn creu lle i fyfyrio ar effaith rhoddwyr corff ar genedlaethau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol.