Advocacy Support In Cymru Ltd

Apêl Cam wrth Gam ASC

Rydym angen eich help nawr i sicrhau bod pawb sy'n dioddef o salwch meddwl difrifol yn cael cefnogaeth eiriolwr, ni waeth a ydynt yn gymwys ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth statudol.
0%
£0
raised of £200 target
RCN 1141999

Be a fundraiser

Create your own fundraising page and help support this cause.

Start fundraising

Story

Mae ein Hapêl Cam wrth Gam 2022 yn cael ei lansio yr wythnos hon. Rydym yn galw ar ein cefnogwyr in helpu i ariannu gwasanaeth eiriolaeth ar draws De Cymru, i sicrhau bod pobl â salwch iechyd meddwl nad ydynt yn bodlonir meini prawf cymhwysedd statudol yn dal i allu cael mynediad at eiriolwr.

Ar hyn o bryd mae ASC yn darparu Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol, Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol ac Eiriolaeth Iechyd Meddwl Cymunedol ar draws byrddau iechyd De Cymru. Fodd bynnag, mae gan y gwasanaeth eiriolaeth a ddarparwn feini prawf cymhwysedd llym a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Dim ond i'r unigolion hynny sy'n bodloni'r meini prawf y mae ein cyllid yn caniatáu i ni ddarparu eiriolaeth annibynnol.

Yn anffodus, mae hyn yn golygu bod ASC yn cael nifer sylweddol o alwadau ac atgyfeiriadau gan bobl na allwn eu helpu, er bod angen clir am gymorth eiriolaeth arnynt. Y llynedd, cofnododd ASC o leiaf ____ o anghenion heb eu diwallu hynny yw, ___ o bobl yr oedd angen cymorth arnynt, na allem eu helpu oherwydd ein cyfyngiadau ariannu.

Mae angen clir am gefnogaeth eiriolaeth i'r rhai sy'n cael eu trin neu eu hasesu am resymau iechyd meddwl o fewn gofal sylfaenol. Mewn nifer o achosion, ni all pobl gael cymorth gydau hiechyd meddwl efallai na fydd eu meddyg teulu yn symud ymlaen ag asesiad neu efallai eu bod wedi methu asesiad gyda Thîm Iechyd Meddwl Cymunedol (CMHT). Mae dadansoddiad on datan dangos eu bod yn aml yn syrffio soffa a/neun chwilio am gymorth gyda thai, efallai eu bod yn chwilio am gymorth i ddeall neu ysgrifennu llythyrau neu ffurflenni neu efallai eu bod yn profi mân anawsterau neu anawsterau difrifol o ran arian neu fudd-daliadau.

O fewn ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd ar Fro a Bae Abertawe, mae ASC yn gallu cefnogi gydag Eiriolaeth Gymunedol ond dim ond os yw person yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd syn golygu bod eu gofal naill ain cael ei reoli drwy CMHT, os ywr person yn dymuno cael ei ailasesu gan CMHT os yw ei achos wedii gau yn ystod y tair blynedd diwethaf neu os ywr person yn glaf mewnol seiciatrig y mae angen eiriolaeth arno ar gyfer materion nad ydynt yn ymwneud â meddyginiaeth neu driniaeth. Os nad yw'r galwr yn gymwys ar gyfer ein gwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Cymunedol neu ein gwasanaethau IMCA neu IMHA statudol, weithiau bydd y cais am gymorth, sydd fel rheol yn un brys, yn disgyn drwy'r rhwyd.

Beth yw Gwasanaeth Cam wrth Gam?

Nod gwasanaeth Cam wrth Gam yw diwallur anghenion hyn sydd heb eu diwallu ac ehangu ein gwasanaethau Eiriolaeth Cymunedol presennol i sicrhau y gallwn ddarparu eiriolaeth annibynnol i fwy o bobl sydd angen ein cymorth, iw grymuso i frwydro dros eu hawliau a siarad allan.

Drwy atgyfeirio ar-lein, rydym yn rhagweld y bydd y gwasanaeth eiriolaeth arfaethedig hwn yn cynnig cymorth i gleientiaid leisiou barn drwy:

- Deall hawliau cyfreithiol ac egluro'r prosesau a'r opsiynau sydd ar gael

- Cael mynediad i gofnodion meddygol

- Cefnogaeth i siarad â Meddyg Teulu neu staff meddygol eraill i ddeall penderfyniadau

- Deall materion tai a ble i gael cymorth a chynorthwyo gyda llenwi ffurflenni

- Deall hawliau budd-daliadau a chynorthwyo gyda llenwi ffurflenni

- Cefnogi gyda Chyllid, Bancio ac anghenion ariannol eraill

- Deall sut i gwyno a chanmol a chefnogaeth i wneud hynny

- Cwmni i fynd i apwyntiadau pwysig (lle bon briodol)

Yn yr un modd ân holl wasanaethau presennol, ni fydd gwasanaeth Cam wrth Gam yn rhoi cyngor, yn cynnig cwnsela, yn darparu cyfryngu nac yn cyfeillio. Ni fyddant yn beirniadu dymuniadau'r sawl maen nhw'n eu cefnogi neu'n ceisio perswadio cleient i ddilyn modd penodol o weithredu. Bydd yr Eiriolwyr yn darparu gwybodaeth i bobl i'w helpu i ddeall pa opsiynau sydd ar gael, ond ni fyddant yn penderfynu neu'n cynghori pa un i ddewis.

Bydd y gwasanaeth hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o fanteision Eiriolaeth Annibynnol ac annog pobl i geisio cefnogaeth eiriolwr. Ein nod yw creu gwasanaeth diogel a deniadol lle gall pobl ag afiechyd meddwl ofyn cwestiynau a darganfod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael iddynt.

Byddwn yn cynnal sesiynau galw heibio cymunedol, yn gweithio gyda meddygon teulu ac awdurdodau lleol i godi ymwybyddiaeth or gwasanaeth ac yn archwilio dulliau newydd o gyrraedd pobl ag afiechyd meddwl a allai fod angen cymorth eiriolwr.

Bydd y gwasanaeth ar gael yn ardaloedd byrddau iechyd yr ydym yn eu cefnogi ar hyn o bryd, gan gynnwys byrddau iechyd Caerdydd ar Fro, Bae Abertawe, Cwm Taf Morgannwg ac Aneurin Bevan.

Pryd fydd gwasanaeth Cam wrth Gam ar gael?

Amcangyfrifwn y bydd angen i ni godi £130,000 i redeg y gwasanaeth bob blwyddyn. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth ar gyfer dau eiriolwr penodedig a rheolwr eiriolaeth, yn ogystal â chyllid ar gyfer sesiynau codi ymwybyddiaeth ac allgymorth, hyrwyddo a gwasanaethau cymorth.

Ar hyn o bryd, dim ond y gwasanaethau eiriolaeth statudol cyfredol yr ydym yn eu darparu y mae ein cyllid yn caniatáu inni eu darparu. Mae angen i ni godi cymaint o arian â phosibl ar fyrder in galluogi i ariannur gwasanaeth newydd hwn. Ein nod yw codi arian drwy ein gweithgareddau codi arian a grantiau gan ymddiriedolaethau a sefydliadau. Ond mae angen cefnogaeth ein cymunedau a busnesau lleol in galluogi i godir arian sydd ei angen i lansior gwasanaeth yn 2022.

About the charity

Advocacy Support In Cymru Ltd

Verified by JustGiving

RCN 1141999
Through professional independent advocacy, Advocacy Support Cymru gives a voice to people in secondary or community mental health care settings. At such points in life, people are vulnerable. We don't judge or seek to persuade into a particular course of action; we support people to speak up.

Donation summary

Total raised
£0.00
Online donations
£0.00
Offline donations
£0.00
Direct donations
£0.00
Donations via fundraisers
£0.00

* Charities pay a small fee for our service. Find out how much it is and what we do for it.