Story
Mae angen eich help ar Abigail, Laura a Lucy, ymchwilwyr PhD yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, i ddod o hyd i’r blodau gorau i bryfed peillio llwglyd.
Mae cacwn, gwenyn, gwenyn unig a phryfed hofran, yn hanfodol i les y byd.
Gall cadw rhestrau o blanhigion sy’n denu pellwyr i ein helpu i ddewis y planhigion iawn, ond at ei gilydd nid yw’r rhestrau hyn yn seiliedig ar ddata gwyddonol go iawn nac yn cynnwys rhai o’r planhigion pwysig sy’n denu pryfed peillio. Yma yn yr Ardd mae gennym gasgliadau garddwriaethol a Gwarchodfa Natur Genedlaethol, yn cynnwys dewis o dros 9000 o wahanol fathau o blanhigion i’n pryfed peillio. O'r herwydd, rydym mewn sefyllfa wych i wneud profion gwyddonol i weld pa blanhigion sydd fwyaf pwysig.
I gael gwybod pa blanhigion y mae’r pryfed peillio wedi bod yn ymweld, byddwn yn casglu samplau o baill o’u cyrff. Rydym yn echdynnu, yn amlhau ac yn dilyniannu’r DNA yn y paill gan ddefnyddio technegau barcodio DNA. Drwy hyn gallwn gael gwybod yn union pa blanhigion sydd fwyaf pwysig i bryfed peillio a defnyddio’r wybodaeth hon i ddatblygu cymysgeddau hadau sy’n denu pryfed peillio i’w defnyddio yn ein gerddi.
Mae’n costio £3,000 i echdynnu, amlhau a dilyniannu DNA o 100 o samplau ac mae angen eich help arnom er mwyn i ni allu dilyniannu paill o 500 o bryfed (cyfanswm o £15,000). Drwy gyfrannu at yr achos hwn, rydych yn cyfrannu’n uniongyrchol i ymchwil a chadwraeth pryfed peillio yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru!
I ddiolch i chi am eich cefnogaeth:
£50 – Dau docyn am ddim i ymweld â’r Ardd Fotaneg.
£100 – Pedwar tocyn am ddim i ymweld â’r Ardd Fotaneg.
£150 – Brodwaith Pryfed Peillio Pwytho Botanegol.
£250 – Taith Gerdded Cacwn a chyflwyniad i adnabod rhywogaethau ym mhrydferthwch yr Ardd Fotaneg a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las gyda’r Tîm Gwyddoniaeth.
£300 – Diwrnod Cadw Gwenyn yng Ngwenynfa’r Ardd Fotaneg.
£400 – Diwrnod yn y Labordy Gwyddoniaeth yn dysgu am roi cynnig ar farcodio DNA.