Story
Bwriad Apêl Corwynt Cariad yw cynorthwyo rhai o bobl dlotaf y byd, pobl sydd yn byw mewn hofelau ar Ynysoedd y Philipinas, a hynny yng nghysgod pob math o beryglon - corwyntoedd, trais, cyffuriau, daear-grynfeydd, tanau ayyb.
Er mwyn codi arian tuag at Apêl Corwynt Cariad bwriadaf seiclo o Ddolgellau i’r Bala, ymlaen i Drawsfynydd ac yn ôl i Ddolgellau, cyfanswm o 50 milltir. Rwy’n gobeithio cyflawni’r daith un dydd Sadwrn ym mis Ebrill pan fo’r tywydd yn addas.
Gwerthfawrogir pob cefnogaeth, boed yn fach neu’n fawr.
The Presbyterian Church of Wales at Salem Chapel, Dolgellau is taking part in Christian Aid's Typhoon of Love appeal. The proceeds will go towards helping some of the poorest people on earth living in slums on the Philippines. They face dangers on a daily basis from such things as typhoons, drug gangs, earthquakes and fires. My aim is to cycle from Dolgellau to Bala, on to Trawsfynydd and then back to Dolgellau - a total of 50 miles. Each and every contribution, no matter how small will be greatly appreciated.