Dechox

DECHOX 2019 · 28 February 2019 ·
Eleni rydwi wedi penderfynu gwneud DECHOX eto oherwydd llynedd gwnaeth hyn i mi deimlo’n well amdanaf fy hun ac yn llawer iachach hefyd wrth ystyried fy mod yn bwyta lot o choclets! Teimlaf fel bod yr arian yn mynd tuag at achos da ac yn helpu llawer o bobol. Mae’r elusen hon yn elusen hynod bwysig oherwydd maent yn cefnogi a chymorthi y rhai sydd yn dioddef o glefyd y galon sydd yn glefyd eithaf cyffredin yn ddiweddar a teimlaf y gallaf gyfrannu swm bach o arian ond sydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’r dioddefwyr.
Llynedd llwyddais i gasglu tua £160 ac eleni rydw i’n dymuno curo targed o £170 os yn bosib.
Felly plis cymrwch yr amser i gyfrannu i achos da!
Diolch!
Charities pay a small fee for our service. Learn more about fees