Story
Dechreuodd y diwrnod am 8.00 o’r gloch ar fore y 29ain o Fai 2010 ar waelod Yr Wyddfa (1085 metr) cyn symud ymlaen i Cadair Idris (893 metr) a gorffen y daith ar Ben-y-Fan (886 metr). Penderfynwyd dechrau’r daith yn hwyrach na’r disgwyl oherwydd rhagolygon tywydd anffafriol. Roedd yr amgylchiadau yn anodd ar yr Wyddfa ac fe waethygon nhw ar Gadair Idris lle nad oedd yn bosib gweld ymhellach na 10 metr oherwydd glaw a niwl mynydd. Roedd yr amgylchiadau’n debyg ar Ben-y-Fan ond roedd hefyd yn dywyll erbyn hyn.
Mae Tîm Dolmans, ynghyd a staff a phartneriaid Dolmans, eisiau diolch i bawb sydd wedi cefnogi’r fenter trwy gyfrannu’n hael; mae hyn wedi ein galluogi ni i godi swm sylweddol o arian ar gyfer elusen lleol haeddiannol. Roedd eich nawdd yn ysgogiad i ni gwblhau’r sialens er gwaetha’r tywydd gwael ar y diwrnod. Os nad ydych wedi cyfrannu hyd yn hyn mae dal yn bosib gwneud hynny drwy ymweld a’r tudalen “Just Giving”.
Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth.
Tîm Dolmans Ras Y Tri Chopa
