SCROLL DOWN FOR ENGLISH!
Fis Tachwedd 2019, fe gollom ni ffrind hollol unigryw - yr anghygoel, ac anhygoel o ffabiwlbas Trystan Wyn Rees. Roedd Trystan yn 37 mlwydd oed ac yn byw yn Melbourne, Awstralia gyda’i ŵr, James. Cipiwyd e oddi wrthom ni gyd yn llawer rhy gynnar gan y clefyd creulon - canser y pancreas.
Yn yr amser prin a gafodd o’i ddeiagnosis, fe frwydrodd Trystan hyd y diwedd. Roedd ei ddewrder a’i ymgais i wella yn wyneb bach iawn o obaith, yn amlwg i bawb.
Roedd Trystan yn llawn bywyd ac yn caru BYW. Fe grëodd e a James fywyd anhygoel I’w gilydd, ben draw’r byd. Ac fel y daeth bob dim I’w le, fe’u lloriwyd gan y newyddion anghredadwy ei fod yn dioddef o glefyd sydd yn ymddwyn fel llofrudd tawel iawn. Yn aml, nid yw symtomau canser y pancreas yn amlygu eu hun nes ei fod yn llawer rhy hwyr.
Felly, ar ôl dwy flynedd o fethu cwrdd a galaru yn iawn, ma’ tîm ohonom ni wedi penderfynnu gwneud her enfawr eleni er cof am Trystan, sef seiclo 360 milltir o Lundain i Amsterdam er mwyn codi arian i'r elusen arbennig, sef Amser Justin Time!
Bydde Trystan wedi troi yn 40 Tachwedd dwetha, ac o'dd e bob amser yn dweud o'dd e ishe bod yn 'Fit for forty!' Felly, ry'n ni fel tîm am wneud hynny ar ei ran. Yn sicr bydd ishe rhyw fath o regime ffitrwydd radical ar ein cyrff covid er mwyn wynebu'r dasg anferthol yma yn mis Mehefin!
Ni'n clywed chwerthiniad Trystan yn atsain yn uchel ar ei ‘fflamingos’ yn barod!! Roedd Trystan yn caru fflamingos, ac yn caru mai’r enw cyfunol am fflamingos yw ‘flamboyance!’ Ac felly dyma ni, ei flamboyance e, ei griw e o fflamingos – ‘Fflamingos Trystan, yn seiclo ‘fel y clappers’ I Amsterdam!
Mae elusen Amser Justin Time yn un sbeshal iawn, wedi ei sefydlu gan berson sbeshal iawn i ni gyd, sef y gantores opera a chyflwywraig heb ei hail - Shân Cothi. Bu farw gwr Shân, Justin, o ganser y pancreas nol yn 2007, ac fe gychwynnodd yr elusen trwy arwain tîm enfawr o bobol yn marchogaeth ceffylau o'r gogledd i'r de. Am fenyw! Ac am elusen. Elusen sydd eisioes wedi rhoi £102,000 i ariannu cymrydoliaeth sydd wedi ei anelu yn uniongyrchol i fewn i ymchwil stem cell canser y pancreas.
Wrth gwrs, allwch chi for mor 'flamboyant;' ag y'ch chi eisiau gyda'ch rhoddion cofiwch chi! Ond fe fyddwn ni yn gwerthfawrogi unrhyw swm, yn fawr neu'n fach wrth gwrs tuag at yr achos arbennig yma, os gwelwch yn dda. Ma angen pob help arnom ni i gyrraedd y targed yma I fedru gwneud y daith ac i helpu my o bobol fydd yn diodde o'r clefyd yn y dyfodol. Ni’n addo ddim gadel chi lawr!
🦩 Fflamingos Trystan – Fit for Forty!!! 🦩
Y Fflamingos:
Iestyn Huw Rees, Ffion Flockhart, Catrin Jên Evans, Nia Medi & Carys Eleri.
************************************************************************
ENGLISH TRANSLATION (Yay, you found it!).
In November 2019, we lost a very unique friend, the outstanding and outstandingly fabulous Trystan Wyn Rees. Trystan was 37 years old and was living in Melbourne, Australia with his dear husband, James. He was diagnosed with pancreatic cancer, which took him away from us all in very little time.
He bravely fought against his condition till the very end, even in the face of very little hope.
Trystan was full of life, and boy did he know how to LIVE! He and James created an incredible life together down under, and just as every piece fell into place – the unexpected news of Trystan’s condition came to floor them and everyone within their lives.
Pancreatic cancer is often a silent killer as the symptoms rarely arise until it is too late.
Having not been able to meet up much over the last couple of years and collectively grieve and celebrate Trystan, a crew of us have decided that it would be a GREAT idea to do a big challenge this year in Trystan’s name – a challenge that will see us cycling no more than 360 miles in total from London to Amsterdam!
Trystan would have turned 40 last November, and always used to say he wanted to be ‘fit for forty!’ So we as a team will do this for him as many of us have or will turn 40 this year! One thing is for sure – we’ll need some kind of radical fitness regime going for our covid bodies to face this mammoth task in June!
We can hear Trystan giggling loudly at his ‘Flamingos’ already! Trystan loved flamingos, and adored the collective term for them, which is ‘a flamboyance!’ So here we are – his flamboyance, his team of Welsh Flamingos! ‘Flamingos Trystan’ or in English, ‘Trystan’s Flamingos’ in case that wasn’t clear. 😉
The charity itself is a very special one as is its founder, the one and only opera singer and presenter, Shân Cothi. Shân lost her wonderful husband, Justin, to pancreatic cancer back in 2007, which is why she set it up. The charity began with her and a team of people horse riding all the way from north to south Wales. What a woman! And what a charity. Amongst many wonderful achievements, 'Amser Justin Time' has already raised £102,000 to fund a fellowship which is primarily aimed towards pancreatic cancer stem cell research.
Of course, you can give as FLAMBOYANTLY as you'd like to towards our challenge. But of course every sum small or large will help us reach the money target in order to embark on this epic, wonderful journey to honour an epic and wonderful friend and help all those who suffer of pancreatic cancer in future,
We promise we won't let you down!
🦩 FLAMINGOS TRYSTAN - FIT FOR FORTY🦩
The Flamingos:
Iestyn Huw Rees, Ffion Flockhart, Catrin Jên Evans, Nia Medi & Carys Eleri.