Story
Rwyf wedi rhedeg bob dydd ers Rhagfyr yr ail 2018 heb fethu yr un diwrnod. Fy mwriad yw dathlu cyrraedd targed dwy flynedd drwy redeg Marathon o Borthmadog i Ysbyty Gwynedd. Rydym fel teulu wedi bod drwy gyfnod anodd iawn yn ystod y flwyddyn aeth heibio oherwydd fod Nia wedi gorfod wynebu triniaeth cancr y fron, ond rydym wedi bod yn hynod lwcus o'r gofal a gafodd Nia gan holl staff Ward Alaw ac Ysbyty Gwynedd. Felly mae Nia, Cai, Beca a minnau yn awyddus iawn i godi cymaint o arian ac sy'n bosib er mwyn diolch i Ward Alaw ac Ysbyty Gwynedd, gan obeithio y bydd yr arian y byddwn yn ei godi o gymorth i gleifion eraill yn y dyfodol. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Ward Alaw gan fod aelodau eraill o'n teulu a ffrindiau agos wedi derbyn gofal arbennig ganddynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
