Story
Dyma'r trydydd tro i mi redeg ras i gasglu arian ar gyfer elusennau. Llynedd mi ddaru 5 ohonom o Ysgol Tryfan gasglu dros £500 tuag at Gwobr Goffa Keith Price. Yn 2010 mi wnes i a Llinos Haf redeg y Great North Run ar gyfer Leukaemia Research a chasglu dros £1000. Diolch i bawb wnaeth gyfrannu!
Dyma fy ras olaf dwi'n meddwl, gan fod y pennau gliniau'n dechrau dangos eu hoed erbyn hyn!! Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn i bob un ohonoch am eich cyfraniadau.
Mari xx