Your friends are fundraising. Don't miss out, opt in.

Fundraiser complete

This page is now closed, but you can still donate to the cause directly

Er cof am AMP

Owen Puw Williams is raising money for The Eve Appeal
In memory of Anwen Puw
Donations cannot currently be made to this page
The Eve Appeal is the leading gynaecological cancers charity. To help save lives, we focus on preventing and improving the early diagnosis of all five gynae cancers. We fund medical research, educate people about gynae cancers, and provide free, expert information and advice.

Story

Mis Mai flwyddyn dwytha’ mi gollon ni Mam, Anwen Mair Puw, ar ôl blwyddyn o frwydr efo cancr.

Fydd pawb sydd yn nabod Mam yn cofio pethau gwahanol amdani hi, ei hiwmor efallai, ei theyrngarwch dwys, ei charedigrwydd tuag at yr holl ddisgyblion y ddysgodd hi, neu y cariad di-ben-draw roedd hi’n dangos tuag at y bobl oedd o’i chwmpas hi. Roedd rhai ohona' ni ddigon lwcus i brofi rhain i gyd. 

Math o gancr endometrial gafodd Mam, math sy’n gyffredin iawn mewn merched, ond efallai ddim yn cael yr un sylw a rhai mathau eraill o gancr yn ei gael. Un rheswm am hyn yw bod cyfradd goroesi'r mâth yma o gancr yn gymharol uchel, ond os nad ydi o’n cael ei ddarganfod yn ddigon cynnar, fel yn sefyllfa Mam, mae’n gallu bod yn beryglus tu hwnt.

Felly, er mwyn codi ymwybyddiaeth ynglyn â’r cancr yma, ac i godi arian at elusen 'The Eve Appeal', sydd yn ymchwilio i gancr gynocolegaidd, 'dw i am gerdded 184 milltir ar hyd llwybr yr arfordir o Aberystwyth (lle aeth Mam i'r Brifysgol) i Borthmadog (lle gafodd hi ei magu) i Saron, ei chartref, ger Caernarfon. Mi fyddaf yn trio gwneud hyn mewn 14 diwrnod, neu yn gynt os medraf, gan ddechrau a'r y 27ain o Fawrth, 2023.


Mae pethau yn dynn ar lot o bobl ar hyn o bryd, felly mi fasa unrhyw swm o gyfraniad o unrhyw fath yn cael ei werthfawrogi yn fawr iawn.

Diolch i chi am gymeryd amser i ddarllen hwn.

A diolch amdani hi.

Donation summary

Total
£8,800.48
+ £1,531.25 Gift Aid
Online
£8,800.48
Offline
£0.00

Charities pay a small fee for our service. Learn more about fees