Hefo’n gilydd, fis Hydref yma, mi fydd 5 ohonan ni’n rhedeg (cerdded i mi am resymau amlwg) cyfanswm o 250 MILLTIR (50 milltir yr un) i godi arian at ganser y prostad. Mae mwy o bobl yn cael diagnosis o ganser y prostad bob blwyddyn na’r un canser arall. Ac mae effaith y coronafeirws yn bygwth yr ymchwil sy’n cael ei wneud yn y maes. Mae angen cefnogaeth i warchod y gwaith ymchwil i gael gwell profion a thriniaethau yn lle bod y clefyd yma’n lladd. https://www.justgiving.com/fundraising/pellter-ir-prostad