Siwan's Welsh Three Peaks Challenge

Welsh Three Peaks Challenge · 17 June 2023
Yn ôl yn 2016, daeth canser i guro ar y drws, pan gefais ddiagnosis o ganser ceg y groth.
Aeth yr wythnosau cyntaf heibio mewn niwl o apwyntiadau ysbyty, profion gwaed, sganiau, a lot fawr o nodwyddau. Roedd ofn arnai a dweud y lleiaf ond yn raddol trodd y braw i mewn i benderfyniad llwyr fy mod am ei guro.
Dilynodd triniaeth cemotherapi wythnosol, tra'n gwisgo'r cap oer. Dwi nawr yn gwybod gwir ystyr y gair ‘brain freeze’! Yna i ddilyn sesiynau radiotherapi dyddiol. Roedd yn gyfnod anodd ond gyda gofal fy arbenigwraig, meddygon, nyrsys a’r tîm treialon ymchwil, ym mis Mai 2017, cefais yr ‘all clear’ a diolch byth roedd y canser wedi mynd.
Er bod fy stori a diweddglo da, yn anffodus nid yw hyn yn wir am lawer o bobl eraill sy'n cael diagnosis o'r afiechyd anfaddeuol hwn. Felly rwyf wedi penderfynu gwneud yr her hon fel ffordd o ddangos fy niolch i waith Ymchwil Canser Cymru a hefyd i anrhydeddu pawb y mae’r clefyd wedi cyffwrdd â’u bywydau mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.
Felly safaf mewn undod â’r rhai sydd wedi brwydro yn ei erbyn , i gefnogi’r rhai sy’n mynd drwyddo ac er cof cariadus am y rhai yr ydym yn anffodus wedi colli iddo.
Helpwch fi i godi arian ar gyfer yr elusen anhygoel hon a fydd, trwy eu gwaith ymchwil arloesol, yn parhau i wella triniaeth canser yma yng Nghymru a gobeithio yn arwain at ganlyniadau gwell i'r rhai sy'n cael diagnosis heddiw.
***************************************************
Back in 2016, cancer came knocking on my door when I was diagnosed with cervical cancer.
The first few weeks went by in a hazy blur of hospital appointments, blood tests, scans, needles and even more needles. I was terrified to say the least but gradually the terror morphed into sheer determination that I was going to beat it.
Weekly chemotherapy treatment followed, all whilst wearing the cold cap from which I now know the true meaning of brain freeze! Then the daily radiotherapy sessions, zapping every cell of my body. It was a gruelling slog but with the care of my consultant, doctors, nurses and the research trials team, in May 2017, I thankfully had the all clear and the cancer had gone.
Whilst my story ends well this unfortunately isn’t the case for many others who are diagnosed with this unforgiving disease. So I’ve decided to do this challenge as way of showing my gratitude to the work of Cancer Research Wales and also to honour everyone who’s lives have been touched in one way or other by the disease.
So I stand in solidarity with those who have battled it , in support of those going through it and in loving memory of those who we’ve sadly lost to it.
Please help me raise money for this amazing charity who through their pioneering research work will continue to improve cancer treatment here in Wales and hopefully result in better outcomes for those diagnosed today.
Diolch am bob cyfraniad/Thanks for all donations.
Siwan xx
Charities pay a small fee for our service. Learn more about fees