Story
Nia ydw i a fi yw chwaer Steffan Lewis, Aelod Cynulliad dros ranbarth De Ddwyrain Cymru - a trefnu'r digwyddiad hwn yw fy anrheg pen-blwydd i fy mrawd mawr. Cyn y Nadolig, mi gafodd Steffan y newyddion fod ganddo ganser y coluddyn, cyfnod pedwar. Mi ddaeth hyn fel sioc ac mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd, ond rydym mor ddiolchgar am y gofal y mae Steffan wedi ei dderbyn gan Ysbyty Felindre, Caerdydd. Rydym ni, teulu Steffan, eisiau diolch i'r staff yn Felindre a'u cefnogi i barhau gyda'u gwaith arbennig. Dyma pam yr ydym wedi trefnu y daith gerdded hon. Rydym eisiau gwahodd cynifer o bobl ag sy'n bosib i gymryd rhan ynddi. Rydym yn gofyn yn garedig i chi godi oleiaf £50 os ydych yn mynd i ymuno â'r daith. Os nad ydych yn gallu ymuno, yna mi fyddwn yn falch ofnadwy o unrhyw gyfraniad y gallwch ei wneud i'r dudalen hon.
Diolch o galon i chi am eich cefnogaeth.
Nia xx
My name is Nia and my big brother is Steffan Lewis who is an Assembly Member for South Wales East. I'm organising this event as a birthday present for my brother. Before Christmas, Steffan was diagnosed with stage four bowel cancer. The news came as a shock and the last few months have been tough, but we're very grateful for the care Steffan is receiving from the team in Velindre Hospital, Cardiff. We, Steffan's family, want to thank the staff at Velindre for this and would like to support their incredible work. That is why we have organised this fundraising event. We want as many people as possible to take part and to raise as much money as possible. If you would like to walk with us, all we ask is that you raise a minimum of £50 please. If you can't walk, we would be very grateful for any donations you would be willing to make to this page.
Thank you so much for your support.
Nia xx