Story
Os ydych yn ddisgybl neu gyn-ddisgybl o Ysgol Henry Richard neu yn gyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Tregaron fi’n sicr un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i chi oedd y daith gerdded noddedig. O Soar Y Mynydd neu yn ddiweddar ar lwybr Cors Caron mae’r daith wedi bod yn dipyn o her, ond yn gyfle i gymdeithasu wrth godi arian tuag at Adran Ymchwil Cancr yn Ysbyty Felindre, Caerdydd.
Trefniadau amgen sydd wedi bod yn ei le dros ddwy flynedd diwethaf ac rydym yn awyddus i’r daith gerdded esblygu trwy gynnal digwyddiad sydd yn gyfuniad o ddigwyddiad rhithiol a hefyd rhoi’r cyfle i ddisgyblion yr ysgol cyd-gerdded ar Ddydd Gwener y 24ain o Fehefin.
Trefniadau - Dydd Gwener 24/06/2022 (Disgyblion a Staff yr ysgol)
-Disgyblion Blynyddoedd 7 i 10 yn cerdded ar lwybr Cors Caron.
-Disgyblion Meithrin i Flwyddyn 6 yn cerdded hyd at 4 milltir (yn ddibynnol ar oedran) ar gaeau’r ysgol.
-Bydd pob disgybl yn yr ysgol yn derbyn ffurflen noddi er mwyn codi arian tuag at Adran Ymchwil Cancr yn Ysbyty Felindre, Caerdydd ac mi fydd angen i’r ffurflen yma ynghyd â’r arian cael ei ddychwelyd i’r ysgol erbyn y 04/07/2022.
Trefniadau Rhithiol - 20 - 26/06/2022 (PAWB)
-Yn ychwanegol i’r uchod bydd cyfle i ni fel disgyblion, athrawon, cyn-ddisgyblion a’r gymuned i ychwanegu at filltiroedd yr wythnos trwy gofnodi pob gweithgaredd rydych chi yn ei ymgymryd yn ystod yr wythnos ar ‘STRAVA’. Cofiwch bydd popeth yn cyfrannu at y milltiroedd, o gerdded o gwmpas yr ardd, cerdded y ci neu i gerdded yn bellach yn y gymuned.
-I gofnodi eich taith bydd rhaid i chi lawrlwytho’r App ‘STRAVA’, sydd am ddim, ac ymuno gyda’r Clwb ‘Ysgol Henry Richard’. Wrth recordio eich taith, mae’n hanfodol eich bod yn cofnodi eich gweithgaredd fel ‘Run’ neu ni fydd yn cyfrannu at y cyfanswm o filltiroedd. Bydd yna wobr i’r person sydd yn cyflawni’r cyfanswm uchaf o filltiroedd a’r disgybl sydd yn codi’r swm mwyaf o arian.
Pob Lwc!
If you are a pupil or former pupil of Ysgol Henry Richard or a former pupil of Ysgol Uwchradd Tregaron, I’m sure one of the highlights of the year for you was the sponsored walk. From Soar Y Mynydd or recently on the Cors Caron trail the journey has been challenging, but a fantastic opportunity to socialise with your peers whilst raising money for the Cancer Research Department at Velindre Hospital, Cardiff.
There have been alternative arrangements in place for the past two
years and we are keen for the walk to evolve by creating an event that is a combination of a virtual event whilst also providing school pupils with the opportunity to walk together on Friday the 24th of June.
Arrangements - Friday 24/06/2022 (School Pupils and Staff)
-Year 7 to 10 pupils to walk the Cors Caron trail.
-Nursery to Year 6 pupils to walk up to 4 miles (depending on age) around the school playing fields.
-All pupils at the school will receive a sponsorship form to raise money for the Cancer Research Department at Velindre Hospital, Cardiff and this form and sponsorship money will need to be returned to the school by 04/07/2022.
Virtual Arrangements - 20-26/06/2022 (Everyone)
-In addition to the above we as pupils, teachers, former pupils and the community will have the opportunity to add to the miles total during the week by recording every activity you undertake on 'STRAVA'. Remember everything contributes to the miles, from walking around the garden, walking the dog or walking further in the community.
-To record your activity, you will need to download the free 'STRAVA' App and join the 'Ysgol Henry Richard' Club. When recording your activity, it is essential that you record it as a 'Run' or it will not contribute to the total mileage. There will be a prize for the person that achieves the most mileage and the pupil that raises the most money.
Good Luck!
