Story
HISTORY
My name is Ani Saunders (aka musician Ani Glass) and over 18 months ago my perfect little girl was born. At around six weeks old we found out that she was profoundly deaf. It was a really overwhelming time for us, especially during those first few weeks, but what made it that much easier was learning about the National Deaf Children’s Society (NDCS) and the work that they do to support families like ours. They were fantastic: I phoned them for advice (and to cry!) on a number of occasions, they provided us with free(!) British Sign Language classes and continue to be a great help to our family and to many others. I therefore wanted to try to repay them in some way.
RAFFLE
I’m fortunate enough to know some wonderful creative people - two of whom were kind enough to give up their time to help me raise money for this wonderful charity. Jon Pountney is a fantastic photographer (who shot the album cover) and a beautiful painter, and Penglog (aka Steff Dafydd) is a brilliant collage artist and designer who also worked with me on the album designing the layout of the LP and CD. I asked Jon and Steff to reimagine the album’s artwork in their own style by working directly on the record sleeve, and these two wonderful pieces of art (as seen below) are what I’m raffling as a way of raising money for the NDCS (National Deaf Children’s Society).
HOW TO ENTER
Donate to my Just Giving page. Each entry costs £5 (two entries would cost £10 etc.) and you can enter as many times as you like! Add a note to your entry informing me of which artwork’s raffle (or raffles!) you would like to be entered into, or leave blank if you’re open to either. 100% of the money goes directly to the charity.
WINNERS
I’ll pick the winners at random and announce them on Monday the 8th of December (just in time for Christmas!). I’ll cover the shipping costs. Anyone is welcome to donate but I can only send within the UK. Good luck!
>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>
HANES
Fy enw i yw Ani Saunders (aka y cerddor Ani Glass) a dros flwydd a hanner yn ôl ganwyd fy mabi bach perffaith. Pan oedd hi’n chwe wythnos oed, nethon ni ddarganfod ei bod hi'n gwbl fyddar. Odd yr wythnosau cynnar yna'n rhei caled iawn, ond nath dysgu am waith yr NDCS (National Deaf Children’s Society) newid popeth i ni. Roedden nhw'n gwbl wych: nes i ffonio nhw (yn y Gymraeg!) am gyngor (ac i grio!) ar sawl achlysur, nethon nhw ddarparu dosbarthiadau BSL i ni am ddim(!) a ma nhw'n parhau i fod o gymorth mawr i'n teulu ni ac i lawer o rai eraill. Felly o'n i ishe eu had-dalu mewn rhyw ffordd.
RAFFL
Fi'n ddigon ffodus i nabod lot o bobl greadigol hyfryd, ac mae dau ohonyn nhw wedi bod yn ddigon caredig i gytuno i helpu fi i godi arian ar gyfer yr NDCS. Mae Jon Pountney yn ffotograffydd anhygoel (a dynnodd y llun ar glawr yr albwm) ac yn arlunydd gwych ac mae Penglog (aka Steff Dafydd) yn artist ac yn ddylunydd ffantastig nath neud yr holl waith cysodi ar gyfer yr albwm newydd. Nes i ofyn i Jon a Steff i ail-ddychmygu gwaith celf yr albwm yn eu steil eu hunain (i'w gweld isod) trwy weithio'n uniongyrchol ar glawr y record, a'r ddau ddarn celf gwych yma yw'r hyn rwy'n eu rafflo i godi arian ar gyfer yr NDCS.
SUT I GYMRYD RHAN
Mae pob tocyn yn costio £5 (byse dau docyn yn costio £10 ayyb) a gallwch chi gymryd rhan gymaint o weithiau a chi moen! Ychwanegwch nodyn i roi gwybod pa waith celf yr hoffech chi neu gadewch yn wag os ydych chi'n agored i'r naill neu'r llall. Mae 100% o'r arian yn mynd yn syth at yr elusen.
ENILLWYR
Byddai’n dewis yr enillwyr ar hap ac yn cyhoeddi'r enwau ar ddydd Llun yr 8fed o Ragfyr (jest mewn pryd ar gyfer y Nadolig!). Nai dalu'r costau cludo. Ma croeso i unrhyw un gyfrannu ond allai ond danfon y llunie o fewn y DU. Bob lwc!

Painting by Jon Pountney

Collage by Penglog
