Story
Dwi di mwynhau cystadlu yn ‘Steddfod yr Urdd ers ysgol cynradd ac mae cystadlu efo Aelwyd y Waun Ddyfal wedi bod yn un o uchafbwyntiau pob blwyddyn ers dod i’r brifysgol.
Dwi wrth fy modd bod y steddfod yn dod i Fôn felly dwisho gwneud rhywbeth i hel pres trwy Apêl Llanfair Mathafarn Eithaf a’r cyffiniau.
Mi ydw i am gerdded adra (i Sir fôn) o Gaerdydd ar ddiwedd y mis sydd yn tua 190 milltir o gerdded dros 10 diwrnod, yn gorffen yn California, Rhosfawr, er mwyn cael diod bach i ddathlu (a safio cerdded y milltir bellach adra!)
Rhowch yn hael mi fydd bob rhodd yn anogaeth ac yn help.
Mi fydda’ i’n rhoi manylion y daith ar y tudalen yn fuan. Mae gwahoddiad i unrhyw un ymuno boed yn 100 metr neu fwy!
Diolch
Iwan 😊
