Cronfa Goffa Emrys Arthur Memorial Fund

SCIPS yw elusen ward NICU, Ysbyty Mynydd Bychan, Caerdydd.
Yn heddychlon yn ein breichiau ar Fawrth 14eg, 2024 ar ward NICU (neonatal intensive care unit) ysbyty athrofaol y Mynydd Bychan, Caerdydd, cymerodd Emrys Arthur ei anadl bach olaf wedi 8 diwrnod bythgofiadwy ond lot rhy fyr ar y ddaear.
Wedi taith hir i gyrraedd y pwynt yma gyda chymorth clinig IVF Cymru; ganed ein mab cyntaf Emrys yn 25 wythnos + 2 diwrnod ar Fawrth 6ed, 2024, yn pwyso 804g. Er gwaethaf cychwyn anodd iawn i’w fywyd lle nad oedd curiad calon am y 15 munud cyntaf; mi welodd Emrys y byd ac ymddengys yn sefydlog am y dyddiau cyntaf. Ond dangosodd sgan ar yr ymennydd waedu ar y ddwy ochr, a achoswyd yn ôl pob tebyg gan y trawma iddo wynebu ar enedigaeth; roedd ei lygaid wedi ymledu yn llwyr ac yn anadweithiol i olau. Bu raid i ni wynebu realiti creulon dyfodol byr iawn Emrys, ac na fyddai’n gweld tu hwnt i ward NICU.
Cafwyd rhai o ddiwrnodau gorau ac anoddaf ein bywydau ond ‘da ni’n teimlo’n hynod ffodus o’r amser rydym wedi ei gael gydag Emrys a byddwn yn trysori’r dyddiau yma am byth.
Mae ein diolch yn ddiderfyn i’r gofal arbennig iawn rydym ein tri wedi’i dderbyn gan staff NICU: cartref cyntaf Emrys a lle o ryfeddod. Derbyniodd Emrys ofal un i un, 24 awr y diwrnod ac mi oedd y gofal tu hwnt i unrhyw beth da ni erioed wedi’i brofi o’r blaen. Derbyniwyd y lefel uchaf o ofal gan dîm oedd yn ymroddedig i wneud eu gorau glas drosom fel teulu.
Rhoddwyd y cyfle i ni greu atgofion i drysori am byth ar y ward; mi ddaru ni ofalu am Emrys, ei ddal, ei garu, ei gysuro, ei suo i gysgu. Heb waith arbennig y nyrsys a’r ymgynghorwyr ni fyddem ni, na ein teulu agosaf, wedi cael 8 diwrnod gwerthfawr gydag Emrys.
Ni fyddem yn dymuno i unrhyw riant weld eu hunain ar ward NICU, ond rydym yn teimlo’n freintiedig i fod wedi gweld a derbyn y fath ofal.
Gobeithiwn y bydd cronfa Emrys yn helpu taith o leiaf un teulu arall fydd yn cerdded drwy ddrysau arbennig NICU.
Gwelsom ryfeddodau, a’r rhyfeddod mwyaf yw Emrys.
Emrys sydd wedi rhoi’r balchder mwyaf i ni mewn bywyd, da ni mor falch o’i gymeriad a’i enaid. Bydd yn parhau i deithio gyda ni a byddwn yn ei garu hyd oes oesoedd.
Mae hi’n fraint pur i fod yn rhieni i Emrys Arthur.
Gwenno a Luke x
***************************************************************************
SCIPS is the charity for NICU ward, Heath Hospital, Cardiff.
Peacefully in our arms on March 14th, 2024 on the NICU (neonatal intensive care unit) ward at the Heath Hospital, Emrys Arthur took his last small breath after 8 memorable but too short days on this earth.
After a long journey to get this stage, and with the help of the Wales IVF clinic; our first son Emrys Arthur was born at 25 weeks + 2 days on March 6th, 2024, weighing 804g. Despite a tough start to life where he was breached and there was no heartbeat for the first 15 minutes of life; Emrys luckily saw the world and he appeared stable for the first few days. But a brain scan showed bleeds on both sides of his brain, probably caused by the trauma at birth. His eyes were fully dilated and unreactive to any lights. We were faced with the brutal truth about Emrys’ short future with us, and that he wouldn’t see beyond the NICU ward.
We’ve had some of the best and hardest days of our lives but we feel privileged for the time we’ve had with Emrys and we will treasure these days for the rest of our lives.
Our gratitude is endless for the amazing care the three of us have received from NICU staff; Emrys’ first home and place of wonder. Emrys received one to one 24 hours a day care, and that care was beyond anything we’ve ever witnessed before. We received the highest level of care from a team that was dedicated to do their absolute best for us as a family. They genuinely did care.
The ward gave us the opportunity to create memories to treasure forever; we cared for Emrys, we held him, we loved him, we soothed him, we sang him to sleep. Without the nurses and consultants amazing care, we and our closest family members would not have had those 8 precious days with Emrys.
We wouldn’t wish for any parent to land themselves on the NICU ward, but we feel privileged to have witnessed and received such care.
We hope Emrys’ fund will help at least one other family that will walk through the doors of NICU.
We saw wonders, but the greatest wonder is Emrys.
Emrys is our greatest achievement, we are so proud of his character and soul. He will continue to travel with us and we will love him until the end of time.
It is an absolute privilege to be Emrys Arthur’s parents.
Gwenno and Luke x
Charities pay a small fee for our service. Learn more about fees