Story
Wedi brwydr hir a dewr, hunodd Wendy yn dawel yng nghwmni ei theulu.
Roedd hi’n wraig annwyl i Richard, yn Mami annwyl i Carys a Carwyn, yn ferch hoffus i Mair a’r diweddar Gwilym, yn chwaer gariadus i Wyn a Gareth, yn ferch-yng-nghyfraith i Juliet a’r diweddar Delme, ac yn chwaer-yng-nghyfraith hoff iawn i Delyth, Kate a Rachel. Roedd Wendy hefyd yn fodryb, nith, cyfnither a ffrind ymroddedig, roedd yn ei charu’n fawr gan bawb a oedd yn eu hadnabod
Rydym yn codi arian er cof annwyl am ein Mami, Gwraig, Merch a Chwaer, a gafodd ei gofalu gan yr uned cemotherapi yn Ysbyty’r Tywysog Philip am ddwy flynedd.
Drwy gydol ei thaith, dangosodd y staff garedigrwydd, tosturi ac ymroddiad eithriadol. Nid triniaeth yn unig a roddwyd, ond cysur, urddas a gobaith yn ystod cyfnodau anodd iawn.
Dyma ein ffordd ni o ddweud diolch ac o roi rhywbeth yn ôl i’r uned a gefnogodd Wendy a’n teulu mor ddiflino. Bydd pob rhodd yn helpu i sicrhau bod cleifion a theuluoedd eraill yn derbyn yr un gofal arbennig.
Diolch am eich cefnogaeth wrth anrhydeddu cof Wendy.
****
After a long and brave battle, Wendy fell asleep peacefully surrounded by her family.
She was a beloved wife to Richard, an adored Mami to Carys and Carwyn, a cherished daughter to Mair and the late Gwilym, a loving sister to Wyn and Gareth, a daughter-in-law to Juliet and the late Delme, and a much-loved sister-in-law to Delyth, Kate and Rachel. Wendy was also a devoted auntie, niece, cousin and friend, deeply loved by all who knew her.
We are raising money in loving memory of our Mami, Wife, Daughter and Sister, who was cared for by the chemotherapy unit in Prince Philip Hospital for two years before her passing.
Throughout her journey, the staff showed extraordinary kindness, compassion and dedication. They provided not only treatment, but comfort, dignity and hope during the most difficult of times.
This fundraiser is our way of saying thank you and of giving something back to the unit that supported Wendy and our family so tirelessly. Every donation will help ensure other patients and families receive the same exceptional care.
Thank you for helping us honour Wendy’s memory.
