Story
CYMRAEG [English below]
Gwenlli a Rheinallt yn mynd Ar Grwydr i godi arian i Uned Alaw, Ysbyty Gwynedd.
Ym mis Mai 2024, yn 40 oed, ges i ddiagnosis canser y fron a dechrau ar bron i 18 mis o driniaeth: 6 mis o cemotherapi ac imiwnotherapi, mastectomi, 6 mis arall o cemotherapi (tabledi tro’ma), 3 wythnos o radiotherapi, ac ail mastectomi ym mis Hydref 2025.
Mi ges i ofal arbennig o dda gan staff y GIG: Nyrsus Gofal y Fron, Llawfeddyg, Oncolegwyr, a thîm anhygoel Uned Alaw yn Ysbyty Gwynedd, lejands bob un.
Mi gollais i fy iechyd bron iawn dros nos wrth ddechrau chemo. Pan oni’n teithio’n ôl a blaen drwy harddwch gwyllt a garw Eryri i gael triniaeth yn YG, oni’n ysu i gael bod yn ôl allan yn crwydro: ar y beic, ar ben mynydd neu mewn llyn oer.
Felly, dwi 'di bod yn gneud fy ngorau glas i wella a magu ffitrwydd er mwyn gallu mentro ar her i godi arian i Uned Alaw fel ffordd o ddeud “Diolch am achub fy mywyd i a nghael i’n ôl allan yn gneud fy hoff betha!”.
Yr her fydd: clamp o ddiwrnod allan Ar Grwydr yn Eryri yn gneud fy hoff betha! 28 milltir ar y beic. Cerdded dros yr Wyddfa. 5 dip dŵr oer + nofio 1km.
Mi fydd yn ddiwrnod hir a hegar, a dwi’n gobeithio y bydd o’n ddigon i’ch ysbrydoli chi i gyfrannu i Uned Alaw a helpu i wneud pethau chydig yn brafiach i gleifion a’u teuluoedd. Diolch yn fawr!
Bwriadwn fentro'r her ar 2/6/2026 (ond mae'na ddyddiad wrth gefn rhag ofn tywydd garw)
Gallwch ddilyn yr hanes ar https://www.instagram.com/jini_fizz/ a https://www.facebook.com/gwenllihaf
ENGLISH
A Big Day Out to raise vital funds for Uned Alaw, cancer treatment at Ysbyty Gwynedd.
In May 2024, at 40 years old, I was diagnosed with triple negative breast cancer, and I embarked on almost 18 months of treatment: 6 months chemo and immunotherapy, a mastectomy, 6 more months of chemo (tablets this time), 3 weeks of radiotherapy, and a second mastectomy in October 2025.
I’ve received exceptional care from the NHS: the Breast Care Nurses, Surgeon, Oncologists, and the incredible team at the Alaw Unit in YG, they’re all amazing.
I lost my health almost overnight when I started chemo. During my journeys back and forth through rugged, beautiful Eryri for treatment at YG, I just felt desperate to get back out there: on my bike, up a mountain, or in a cold lake.
So, I’ve been working hard at recovering and building my fitness up to enable me to take on a fundraising challenge for Uned Alaw. It’s my way of saying “Thank you for saving my life and getting me back out doing my favourite things!”.
The challenge will be: a Big Day Out in Eryri, doing my favourite things! 28 miles on my bike. Walking up and down yr Wyddfa. 5 cold dips + a 1km swim.
It’ll be a long and challenging day, and I hope it’s enough to inspire you to make a donation to the Alaw Unit to help make things a little bit more comfortable for patients and their families. Diolch yn fawr!
🚴🏻♀️ Penrhyndeudraeth > Llwybr Watkin
🥾 Llwybr Watkin
🏊🏻♀️ Dip Afon Cwm Llan (Pyllau Watkin)
🥾 Copa’r Wyddfa > Llwybr y Mwynwyr
🏊🏻♀️ Dip Glaslyn
🥾 Glaslyn > Llyn Llydaw
🏊🏻♀️ Dip Llyn Llydaw
🥾 Llyn Llydaw > Llyn Teyrn
🏊🏻♀️ Dip Llyn Teyrn
🥾 Llyn Teyrn > Pen y Gwryd
🚴🏻♀️ Pen y Gwryd > Llyn Gwynant
🏊🏻♀️ Dip Llyn Gwynant
🚴🏻♀️ Llyn Gwynant > Llyn Dinas
🏊🏻♀️ Nofio/swim 1km Llyn Dinas
🚴🏻♀️ Llyn Dinas > Penrhyndeudraeth
Follow my progress on https://www.instagram.com/jini_fizz/ and https://www.facebook.com/gwenllihaf
Planned date is 2/6/2026 (there's a backup date in case of bad weather)
