Story
English version below
Ar y 15fed o Fai, byddaf yn wynebu her enfawr – rhedeg ras llwybr UTS 100 milltir. Dyma un o’r heriau corfforol a meddyliol anoddaf i mi erioed ei wneud, ond rwy’n ei wneud am reswm llawer mwy pwysig na’r pellter ei hun.
Rwy’n codi arian er cof am Kaz, dyweddi fy mrawd, a gollodd ei bywyd yn drasig i ganser ar ddiwedd 2025. Dim ond 33 oed oedd Kaz. Treuliodd dros flwyddyn yn brwydro yn erbyn ei salwch gyda chryfder a dewrder anhygoel, ond er gwaethaf popeth, enillodd y canser yn y diwedd.
Roedd Kaz yn caru’r awyr agored — roedd hi hapusaf yn cerdded mynyddoedd, dringo, ac archwilio natur. Mae cymryd rhan yn y ras hon yn ffordd addas o anrhydeddu ei hysbryd.
Tuag at ddiwedd ei bywyd, cafodd Kaz ofal a chymorth gan ddwy elusen: Nightingale House Hospice a Gofal Dydd y Waen. Gwnaeth eu caredigrwydd gyfnod anodd iawn ychydig yn haws, ac rwyf am roi rhywbeth yn ôl er cof amdani.
Bydd pob rhodd, waeth pa mor fach, yn helpu’r elusennau hyn i barhau â’u gwaith hanfodol i eraill sy’n wynebu brwydrau tebyg.
Diolch o galon am eich cefnogaeth.
On the 15th of May, I will be taking on the challenge of completing the UTS 100-mile trail running race. This is by far one of the toughest physical and mental challenges I have ever set myself, but I’m doing it for a reason that means far more than the miles.
I am raising money in memory of Kaz, my brother’s fiancée, who tragically lost her life to cancer at the end of 2025. Kaz was only 33 years old. She spent over a year fighting her illness with incredible strength and courage, but despite everything, cancer took her from us.
Kaz had a deep love for the outdoors — she was happiest hiking, climbing, and exploring nature. Taking on this race feels like a fitting way to honour her spirit.
Towards the end of her life, two charities provided care, compassion, and support to Kaz and those around her: Nightingale House Hospice and Gofal Dydd y Waen. Their kindness made an incredibly difficult time just a little more bearable, and I want to give something back in their memory.
Every donation, no matter how small, will go towards helping these organisations continue the vital work they do for others facing similar battles.
Thank you so much for your support.
