Codi arian i Gyngor Ffoaduriaid Cymru / Fundraiser for Welsh Refugee Council

Ifor ap Glyn is raising money for WELSH REFUGEE COUNCIL
Donations cannot currently be made to this page

Tua’r Gorllewin / Heading West

Welsh Refugee Council supports sanctuary seekers & refugees to build new futures in Wales through specialist advice, support and advocacy services. We are driven by human rights, equality, social justice and to make Wales a welcoming nation of sanctuary for those seeking our protection.

Story

(Scroll down for English)

Yn dilyn llwyddiant ei daith farddoniaeth o Gaerdydd i Gaernarfon yn 2023, mae Ifor ap Glyn ar y lôn unwaith eto ym misoedd Ebrill a Mai eleni. Y tro hwn, bydd ei daith yn mynd ag o o'r fan fwyaf dwyreiniol yng Nghymru, i'r fan fwyaf gorllewinol;, o Drefynwy i Dyddewi, rhyw 160 o filltiroedd i gyd.

Bydd yn cerdded rhyw ddwsin o filltiroedd ar gyfartaledd bob diwrnod, cyn gwneud cyflwyniad o gerddi bob nos, cyn ail-afael yn ei daith bore wedyn.

Yn ogystal â chefnogi elusennau lleol ar hyd ei daith, mae Ifor hefyd yn apelio drwy Justgiving ar gyfer eich cefnogaeth i waith Cyngor Ffoaduriaid Cymru. ‘Bydda’i’n cerdded rhyw 160 o filltiroedd i gyd ond mae ffoaduriaid yn aml yn gorfod cerdded pellteroedd llawer mwy cyn cyrraedd lloches, dan amgylchiadau mwy heriol o lawer ’

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi bod yn darparu gwasanaethau argyfwng ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid ers 33 o flynyddoedd.

Cafodd ei sefydlu gan ffoaduriaid eu hunain ac mae’n helpu rhai o’r bobl fwya bregus yn ein cymdeithas sydd wedi gwneud siwrneiau hir a pheryglus i ddianc rhag rhyfel, erledigaeth, artaith neu drais. “Yn aml cân nhw eu hunain mewn tlodi enbyd ac mewn peryg o fod heb do uwch eu pennau.

Bob blwyddyn mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn helpu miloedd o geiswyr lloches a ffoaduriaid i adeiladu dyfodol newydd iddyn nhw eu hunain drwy gyngor arbenigol, cefnogaeth gyffredinol a thrwy eiriol ar eu rhan.”

Bydd Ifor yn ymweld â’r lleoedd canlynol ar ei daith/ Ifor will be performing in the following venues on his journey,

14.4.25

8pm Punch House, Trefynwy

15.4.25

6pm Beaufort, Rhaglan

16.4.25

7pm Canolfan Melville, y Fenni

22.4.25

6pm Dragon, Crughywel

23.4.25

White Hart, Talybont ar Wysg

24.4.25

7pm White House, Pontsenni

25.4.25

8pm Bear, Llanymddyfri

26.4.25

7pm (fel rhan o Ŵyl Lên Llandeilo, hefo Aneirin Karadog a Mari Mathias) Flows, Stryd y Farchnad

28.4.25

6pm (fel rhan o Gerddi yn Cwrw)

Cwrw, Caerfyrddin

29.4.25

8pm Tafarn yr Oen, Blaenwaun

(hefo Elinor Wyn Reynolds)

30.4.25

8pm Tafarn Sinc, Rosebush

1.5.25

8pm Wolfe Inn, Casblaidd

2.5.25

8pm Mariners, Nolton Haven

3.5.25

7pm Tŷ’r Pererin, Tyddewi”

Following the success of his walking poetry tour from Cardiff to Caernarfon in 2023, former National Poet of Wales,  Ifor ap Glyn will be on the road again in April and May. This time, his journey will take him from East to West, from Monmouth to St. Davids, some 160 miles in total

He’ll walk an average of 12 miles a day, put on a poetry gig that evening, and then set off the following morning on the next leg of his journey.

As well as supporting various local charities through the poetry gigs along the way, he’s also appealing via Justgiving, for support for the work of the Welsh Refugee Council:

“The Welsh Refugee Council have been delivering urgent services to sanctuary seekers and refugees for 33 years. Founded by refugees, we support some of the most vulnerable people in society who have made long, dangerous journeys to escape war, persecution, torture, or violence. Often finding themselves in abject poverty and at risk of homelessness.

Each year we help thousands of sanctuary seekers and refugees to build new futures through specialist advice, support, resettlement activities, and advocacy services.”

Many of those helped by the Welsh Refugee Council will have walked far greater distances on their way to Wales.

Please give them your support. Cefnogwch nhw heddiw.

Diolch

Ifor ap Glyn

Donation summary

Total
£1,395.33
+ £270.28 Gift Aid
Online
£1,395.33
Offline
£0.00

Charities pay a small fee for our service. Learn more about fees