Story
Yn 2026, byddaf yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd er mwyn cefnogi Sepsis UK, achos sydd yn golygu cymaint i mi a’m teulu.
Mae bron i ddwy flynedd ers i ni golli ein dadcu annwyl yn sydyn oherwydd sepsis. Mae ei golled wedi gadael bwlch na ellir ei lenwi byth yn llwyr, ond mae ei atgof yn parhau i’n siapio ni fel teulu. Roedd dadcu yn ddyn cryf, penderfynol ac yn llawn cariad - rhywun a oedd bob amser yn dangos cryfder, caredigrwydd a chefnogaeth ddiwyro i’r rhai o’i gwmpas.
Rwy’n ymgymryd â’r her hon er cof amdano. Mae pob milltir rwy’n ei rhedeg ar ei gyfer ef, ac ar gyfer y teuluoedd di-ri eraill sydd wedi’u heffeithio gan sepsis. Trwy godi ymwybyddiaeth ac arian, rwy’n gobeithio helpu Sepsis UK i barhau â’u gwaith hanfodol mewn addysg, cefnogaeth ac atal, fel bod llai o deuluoedd yn gorfod profi’r boen o golli rhywun mor sydyn.
Os gallwch gefnogi mewn unrhyw ffordd, boed drwy rodd neu drwy rannu’r dudalen hon, byddai hynny’n golygu’r byd i mi a’m teulu.
Diolch am helpu i gadw ei gof yn fyw a gwneud gwahaniaeth! ❤️
In 2026, I’ll be running the Cardiff Half Marathon in support of Sepsis UK, a cause that means so much to me and my family.
It’s coming up to two years since we suddenly lost our beloved dadcu to sepsis. His loss has left a space that can never truly be filled, but his memory continues to shape who we are. He was a powerful, determined, and deeply loving man, someone who always showed strength, kindness, and unwavering support to those around him.
I’m taking on this challenge in his honour. Every mile I run is for him, and for the countless other families who have been affected by sepsis. By raising awareness and funds, I hope to help Sepsis UK continue their vital work in education, support, and prevention, so that fewer families have to experience the pain of losing someone so suddenly.
If you’re able to support in any way, whether through a donation or simply sharing this page, it would mean the world to me and my family.
Thank you for helping me keep his memory alive and make a difference! ❤️

