Story
Mae fy mrawd a fy nhad wedi bod yn brwydro yn erbyn clefyd yr arennau ers blynyddoedd, a’r ddau wedi cyrraedd y cam lle mae eu harennau wedi methu. Derbyniodd fy mrawd aren gan fy mam ar ôl blynyddoedd o gael triniaeth dialysis, ac mae fy nhad ar hyn yn derbyn dialysis ar ôl bod ar y rhestr ar gyfer trawsblaniad ers pum mlynedd. Dwy flynedd yn ôl, er fy mod yn teimlo’n iach ac yn ffit, sylwais nad oedd fy mhwysedd gwaed fel y dylai fod o ystyried fy iechyd. Yn dilyn rhai ymchwiliadau a phrofion genetig, daeth i’r amlwg bod gennyf amrywiad genetig sy’n achosi Syndrom Alport – cyflwr genetig sy’n rhedeg mewn teuluoedd sydd yn gallu achosi problemau gyda’r arennau.
Mae'n gyflwr prin iawn ac un nad oes llawer o ymchwil wedi'i wneud arno, ond sy'n cael effaith mawr ar fywydau llawer o deuluoedd ledled y wlad. Am y rheswm yma, byddaf yn cymryd rhan yn y Great North Run – gan redeg fy hanner marathon cyntaf – i godi arian ar gyfer Alport UK. Bydd pob punt a godaf yn helpu i gefnogi teuluoedd, darparu gwybodaeth ddibynadwy, cysylltu pobl yr effeithir arnynt gan syndrom Alport, a chodi ymwybyddiaeth ac ymchwil ynghylch y cyflwr genetig prin hwn.
Gwerthfawrogi unrhyw gyfraniad, diolch 💙
_________
Both my brother and my father have been battling kidney disease for years, both reaching kidney failure. My brother received a kidney from my mother after years on dialysis, and my father is currently on dialysis having been on the transplant list for 5 years. Two years ago, feeling fit and well I noticed my blood pressure wasn’t as it should be considering my health. After some investigations and genetic testing it came to light that I have a genetic variant that causes autosomal dominant Alport Syndrome- a genetic condition which runs in families which can cause issues with the kidneys.
It’s a very rare and under-researched condition that has a profound impact on the lives of many families across the country. For this reason I will be taking on the Great North Run, running my first half marathon, to raise funds for Alport UK. Every pound I raises will help support families, provide trusted information, connect people affected by Alport syndrome and raise awareness and research of this rare genetic condition.
Appreciate any donation, thank you 💙
