Story
Croeso i Dudalen Codi Arian Madog a Rhun er mwyn cefnogi Cymdeithas Chwilio ag Achub De Cymru!
Ym mis Ebrill eleni, byddwn yn cychwyn ar antur anhygoel dros wyth diwrnod, yn cerdded hyd lawn y mynyddoedd syfrdanol, Bannau Brycheiniog - o’r Fenni i Landeilo. Mae’n daith wirioneddol o’r rhestr fwced, ac rydyn ni wedi bod yn paratoi’n drylwyr: sychu bwyd cartrefol maethlon, mireinio ein cit i wneud y mwyaf o’r lle a’r lleiaf o bwysau, a pharatoi i wersylla’n wyllt o dan y sêr bob nos. Bydd ein taith yn gorffen mewn moethusrwydd gyda gorffwys haeddiannol yn y Gwesty Cawdor prydferth.
Ar hyd y ffordd, byddwn yn cael cwmni gan ffrindiau, teulu, cerddwyr eraill — ac efallai hyd yn oed rai o aelodau’r lluoedd arfog. Ond yn bwysicach fyth, byddwn yn cerdded er mwyn cefnogi achos anhygoel: Cymdeithas Chwilio ac Achub De Cymru.
Mae’r elusen hon, sy’n cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr, yn achubiaeth i’r rhai mewn angen ar draws y rhanbarth. Maent ar gael 24/7 i ymateb i argyfyngau mewn tirweddau heriol iawn. O gŵn achub i ambiwlansys, offer arbenigol a hyfforddiant dwys - mae pob rhodd yn helpu i gadw’r gwasanaeth hanfodol hwn i fynd.
Byddem yn ddiolchgar dros ben pe gallech gefnogi ein her drwy gyfrannu unrhyw swm y gallwch. Mae pob punt yn cyfrif, ac efallai y bydd un diwrnod, rhywun agos atoch chi’n dibynnu ar eu cymorth.
Byddwn yn dechrau ein taith ar Ebrill 24 ac yn gorffen ar Fai 3 — os welwch chi ni ar hyd y llwybr, peidiwch â bod yn swil, dewch i ddweud helo!
Diolch o galon am eich cefnogaeth,
Madog a Rhun
Welcome to Madog and Rhun’s Fundraising Page in Support of the South Wales Search and Rescue Association!
This April, we’re setting out on an unforgettable eight-day adventure, walking the full length of the breathtaking Bannau Brycheiniog (Brecon Beacons) mountain range — from Abergavenny all the way to Llandeilo. It’s a true bucket list expedition, and we’ve been hard at work preparing: dehydrating hearty homemade meals, fine-tuning our gear for maximum efficiency, and getting ready to wild camp under the stars each night. Our journey will finish in comfort with a well-earned rest at the beautiful Cawdor Hotel.
Along the way, we’ll be joined by friends, family, fellow hikers — and maybe even a few members of the armed forces. But more importantly, we’ll be walking in support of an incredible cause: the South Wales Search and Rescue Association.
This 100% volunteer-run charity is a lifeline for those in need across the region, operating 24/7 to respond to emergencies in some of the most challenging terrain. From rescue dogs to ambulances, specialist equipment, and intensive training — every donation helps keep these vital services going.
We’d be so grateful if you could support our challenge by donating whatever you can. Every pound makes a difference, and one day, it could be your friend or loved one who needs their help.
We begin our journey on April 24th and finish May 3rd — if you spot us along the trail, don’t be shy, come say hello!
Thank you so much for your support,
Madog & Rhun
